New Pathways | RAG

Charity of the YearOfficer ArticleRAGwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

RAG (CAR) ydy un o’r pethau rydyn ni’n ei drefnu yn Undeb Aber hynny yw, Codi a Rhoddi. Dyma’n cyfle i roi yn ôl i’r gymuned a’i helpu.

Yn ystod yr haf, aethom ni i gyd yn Undeb Aber ati i ddewis ein Elusen Codi a Rhoddi y Flwyddyn. Roeddem ni eisiau cynrychioli elusen sy’n helpu ein myfyrwyr, dyma pam rydyn ni’n rhoi’r gair olaf i’n myfyrwyr.

Buom ni’n croesawu awgrymiadau gan fyfyrwyr trwy gydol mis Awst ac unwaith i ni gael argymhellion, penderfynodd ein tîm swyddogion y pedwar elusen uchaf yr hoffem ni roi iddynt tra hefyd yn ystyried dewis ein myfyrwyr.

Cyflwynwyd ein pedwar uchaf wedyn i’n myfyrwyr yn Ffair y Glas. Rhoddwyd tocyn iddynt i’w roi yn y system pleidleisio gan roi tocyn yn y blwch oedd yn cynrychioli’r elusen o’u dewis. New Pathways enillodd bleidlais ein myfyrwyr!

Elusen sy’n rhoi cymorth arbenigol i oedolion, pant a phobl ifainc sydd wedi’u heffeithio gan drais, ymosodiad neu gam-drin rhywiol yw New Pathways.

Mae’n fraint gennym helpu’r elusen hon gan ein bod ni’n falch o gefnogi’r gwaith y mae’n ei gyflawni.

Comments

Get to know Francesco

Fri 17 Jul 2026

Get to know Alice

Fri 17 Jul 2026

Get to know Laura

Fri 17 Jul 2026

Get to know Gwenno

Fri 17 Jul 2026