Datganiad TAR

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Mae penderfyniad diweddar y Cyngor Gweithlu Addysg i gael gwared ar achrediad ar gyfer cynllun addysg TAR Prifysgol Aberystwyth wedi ennyn cryn siomedigaeth gan fyfyrwyr, staff, a chymuned y Brifysgol. Dyma neges o gefnogaeth i’r holl fyfyrwyr sydd wedi’u heffeithio gan y newid hwn, ac rydyn ni’n deall y goblygiadau posib y gall hwn ei gael arnoch, yn ogystal â phryderon ynghylch cynlluniau academaidd a threfniadau llety y dyfodol. I bawb y mae’n effeithio arnynt, rydyn ni’n awgrymu:

  • Ystyried ffyrdd eraill o ddilyn TAR a chysylltu â phrifysgolion eraill am gyngor (gallwn ni gadarnhau bod sefydliadau eraill yng Nghymru â llefydd i ddechrau yn 2024). Os ydych chi’n siarad gyda’ch tiwtor personol byddan nhw’n gallu helpu trafod eich opsiynau.
  • Rydyn ni wedi gweithio gyda’r Brifysgol i sicrhau bod opsiwn i dynn ‘nôl o gytundebau gan fyfyrwyr sydd wedi arwyddo cytundebau i aros yn llety’r Brifysgol at flwyddyn nesaf. Gall unrhyw fyfyrwyr a effeithir gan hyn gysylltu â llety@aber.ac.uk.
  • Awgrymir i fyfyrwyr sy’n rhentu gyda llety preifat gysylltu â’u landlordiaid i ddechrau ac yna cysylltu â’n Gwasanaeth Cynghori (union.advice@aber.ac.uk) i gael cyngor pellach i weld opsiynau gwahanol nad yw’r landlord yn fodlon canlso’r cytundeb.

Comments

 

HeloAber 2025

Mon 11 Aug 2025

Get to know Tanaka

Thu 07 Aug 2025

Get to know Nanw

Thu 07 Aug 2025