Cwestiwn ac Ateb ar gyfer y Pwyllgor: Toby Hickey

ClubscommitteeElectionsSocietiesSportsSports ClubsTeamAberwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Pa bwyllgor wyt ti'n rhan ohono a pha rolau sydd wedi bod gen ti?

Dyma’r flwyddyn gyntaf i fi fod ar bwyllgor ac dwi bellach yn llywydd ar y Gymdeithas Ddaearyddiaeth.

 

Beth wnaeth i ti fod eisiau sefyll am rôl ar y pwyllgor?

Yr hyn a ysgogodd i fi sefyll am rôl ar bwyllgor oedd y cyfle cyffrous i fynd ymhellach gyda’r Gymdeithas yn ogystal â’r cyfle i gael parhau ar y trywydd positif mae’r gymdeithas yn mynd.  Yn ogystal â hyn, dwi wrth fy modd yn rhyngweithio gyda phobl newydd a gwelais fod ymgeisio am rôl bwyllgor yn gyfle perffaith lle gallaf gwrdd â phobl newydd mewn cymdeithas, boed un allanol neu’n fewnol.

 

Beth oedd y rhan fwyaf pleserus o fod ar y pwyllgor?

Y rhan mwyaf boddhaus o fod ar bwyllgor heb os yw gweld pawb yn mwynhau’r digwyddiadau y byddwn ni’n eu trefnu. Mae cael adborth gwych, un ai trwy ddigwyddiad, mynd am dro neu ddigwyddiad chwaraeon, yn fy llenwi â balchder pan dwi’n gwybod bod ein pwyllgor wedi plesio pawb a llwyddo i redeg digwyddiad arbennig.

 

Wyt ti’n gallu dweud wrthym am gyfnod lle’r oedd dy rôl yn heriol?

Prin iawn oedd y rôl hon yn anodd. Ar lefel bersonol, y prif her sydd gennyf i yw cofio enwau pawb. Mae gennym ni dros 100 o aelodau felly mae wedi cymryd tipyn o amser i fi eu cofio, ond dwi’n bendant yn gwella!!!

 

Wyt ti’n teimlo bod perthyn i bwyllgor wedi bod yn fuddiol o ran dy baratoi di ar gyfer y dyfodol?

Dwi’n teimlo bod y pwyllgor wedi helpu i fi ddatblygu mewn sawl ffordd tuag at fywyd y dyfodol. Mae magu eich hyder ar lefel bersonol ac o fudd mawr os ydych chi’n ei gweld hi’n anodd siarad gyda phobl newydd!! Mae meithrin sgiliau bywyd a fydd o les i chi fel unigolyn!!!

 

Pa gyngor fyddet t'n ei roi i aelod newydd o'r pwyllgor?

Fy nghyngor i fyddai os ydych chi’n teimlo’n nerfus am rôl, ewch amdani. Byddwch yn difaru pob eiliad os nad ydych chi’n sefyll. Yn ogystal â mwynhau pob eiliad ohoni. Bydd yn mynd yn gyflym a byddwch yn cadw’r atgofion hyn mewn cof am byth!

 

 

Comments

 

HeloAber 2025

Mon 11 Aug 2025

Get to know Tanaka

Thu 07 Aug 2025

Get to know Nanw

Thu 07 Aug 2025