Mae'r GDdAM llynedd bellach yn rhan o Wythnos UMAber yn Dathlu.
Mae'r GDdAM llynedd bellach yn rhan o Wythnos UMAber yn Dathlu.
Enw newydd, golwg newydd, categorïau newydd a lleoliad newydd…Mae'r hyn a elwid yn GDdAM (neu'r Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr) bellach yn cael eu galw'n Wobrau UMAber yn Dathlu Dysgu.
Dyma gipolwg bach ar y newidiadau rydyn ni wedi'u gwneud…
Enw newydd:
Eleni, penderfynodd UMAber ailfrandio a chysylltu ein seremonïau gwobrwyo a gynhelid yn ystod Mai i greu Wythnos UMAber yn Dathlu a rhan hollbwysig o'r wythnos hon yw'r gwobrau dysgu blynyddol.
Golwg newydd:
Mae enw newydd yn esgus i weddnewid a gan ein bod ni'n dathlu llwyddiannau unigolion, roedden ni'n meddwl y byddai'n syniad da gwahodd sêr hefyd…wel, os cawsoch chi eich enwebu am wobr, mae rhywun yn rhywle'n meddwl eich bod chi'n seren.
Categorïau newydd:
Hefyd, rydyn ni'n cyflwyno categorïau newydd eleni gan roi hyd yn oed mwy o gyfleoedd i chi enwebu rhywun sydd wedi gwneud gwahaniaeth i'ch taith yn Aberystwyth:
• Darlithydd y Flwyddyn
• Aelod Staff Ategol / Gwasanaethu'r Flwyddyn
• Cynrychiolydd Academaidd y Flwyddyn
• Goruchwyliwr y Flwyddyn - Ôl-raddedig
• Goruchwyliwr y Flwyddyn - Israddedig
• Adran y Flwyddyn
• Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg
• Athro Ôl-raddedig y Flwyddyn
• Gwobr Ddysgu Arloesol
• Tiwtor Personol y Flwyddyn
• Gwobr Adborth Eithriadol
• Gwobr Cam Nesaf
• Gwobr Arwain Cydraddoldeb
• Clod Arbennig
Lleoliad newydd:
Ac yn olaf, mae'n debyg y bydd gan y gwobrau dysgu gartref newydd eleni. Mae angen lleoliad gwych ar wobrau gwych; dyna pam rydyn ni'n gweithio'n galed eleni i gynnal y gwobrau yn y Neuadd Fawr yn y Ganolfan Gelfyddydau ddydd Gwener 5 Mai. Drwy symud i leoliad mwy, rydyn ni'n gobeithio y bydd mwy o le i fyfyrwyr fynychu a gwylio o'r balconi!
Er gwaetha'r holl newidiadau, un peth sydd heb newid yw'r ffaith fod y gwobrau'n cael eu harwain yn llwyr gan fyfyrwyr o hyd, o'r broses enwebu i'r cyflwyno. Felly pam ydych chi'n oedi? ... enwebwch nawr!
Ambell ddyddiad i'w roi yn eich dyddiadur:
Dechreuodd y cyfnod enwebu ar 6 Chwefror
Enwebiadau'n cau – 12 Mawrth
Panel creu rhestr fer yn cyfarfod – Dydd Llun 20 – Dydd Mercher 22 Mawrth
Cyhoeddi'r rhestr fer – Dydd Llun 3 Ebrill
Noson Wobrwyo - Dydd Gwener 5 Mai