Ein haddewid: “eich cefnogi i fod yn hapus ac yn iach”

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

“Wythnos Undeb Aber yn Dathlu” yw’r wythnos hon - y cyfle GORAU un i ddathlu popeth sy’n ymwneud â myfyrwyr Aber a byddwn yn dathlu’r rhain fesul Addewid Undeb Aberystwyth.

(heb glywed am addewidion Undeb Aberystwyth i fyfyrwyr - cymerwch olwg yma).

Gwyddem ni’n iawn bod i fywyd ei uchafbwyntiau a’i isafbwyntiau ac rydyn ni am fod yno i chi doed a delo.

Heddiw byddwn ni’n edrych yn ôl dros rai ffyrdd rydyn ni wedi “cefnogi myfyrwyr i fod yn hapus ac yn iach” y flwyddyn academaidd hon:

  • Mae ein gwasanaeth cynghori wedi cefnogi’n uniongyrchol dros 300 achos myfyriwr hyd yma yn y flwyddyn academaidd hon.    
  • Mynychodd 156 myfyriwr ein digwyddiad Cariad Pet Therapy fis Ionawr i gael mwytho cŵn yn rhan o’n gweithgareddau lleddfu straen.  Dyma ddiolch i’r gwirfoddolwyr anhygoel o’r myfyrwyr wnaeth hyn yn bosib ac a wnaeth sicrhau yr aeth popeth yn rhwydd ar y diwrnod. Daw ein hoff gyfeillion y cŵn yn ôl fis Mai i leddfu straen yr arholiadau.  
  • Bydd ein gwasanaeth cynghori yn darparu 250+ brecwast am ddim ar gyfer myfyrwyr, yn ogystal â 100 tocyn rholyn selsig am ddim, gyda ffrwyth ar gael am ddim yn yr Undeb.  
  • Rydyn ni wedi datblygu ein Gorsaf Les i fod yn fwy gweladwy ac i ddal mwy o gynhyrchion gan gynnwys gwahanol fathau ar gondomau, citiau profi am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a phrofion beichiogrwydd.   
  • Mae’r Undeb wedi bod yn gweithio gyda sefydliad lleol, Project LUNA, ar gynllun lleoliadau saffach i sicrhau fod llefydd yn y dref yn cefnogi hawliau traws ac arferion cynhwysol, gan ei gwneud yn lle saff i bawb. Mae mwy na 6 lleoliad eisoes wedi cael yr hyfforddiant gydag eraill wedi cofrestru.   
  • Mae ein gwasanaeth cynghori wedi dosbarthu 11,000 o gondomau hyd yma eleni a 3,000 o gydau liwb. Rydyn ni hefyd wedi darparu 528 prawf beichiogrwydd, a 250 cit profi am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Cyflwynwyd llenni geneuol (oral dams) a dosbarthwyd 71 gennym erbyn hyn.    
  • Mae ein tîm swyddogion wedi dosbarthu 200 bag lleddfu straen arholiadau gydag amryw o bethau braf i gefnogi ein myfyrwyr yn ystod adeg yr arholiadau.  
  • Mae ein gwasanaeth cynghori wedi darparu dros 300 o brydau am ddim ar gyfer myfyrwyr yn rhan o wythnos arian myfyrwyr, gan gynnwys brecwast, ffrwythau ffres, a sesiwn gwneud cawl cennin a thato ar y cyd a rholiau selsig am ddim. Yn ogystal â chynnig ffrwyth am ddim yn yr Undeb.  
  • Rydyn ni wedi darparu ystod eang o eitemau hanfodol am ddim ar gyfer yr wythnos arian myfyrwyr gan gefnogi 193 myfyriwr eleni.  
  • Rydyn ni wedi cynghori, wedi cefnogi ac wedi darparu 288 nwydd misglwyf ailddefnyddiadwy hyd yma eleni.
  • Buodd ein Tîm-A yn cefnogi sawl agwedd ar adeg y croeso, yn rhoi croeso cynnes i fyfyrwyr newydd a’u teuluoedd a ffrindiau, ac yn cefnogi trwy gydol y nos ochr yn ochr ag Ambiwlans St John a Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed. Rhwng popeth, fe roddasant bron 840 awr gwirfoddoli yn ystod cyfnod y croeso.
  • Mae ein tîm o Swyddogion a Staff wedi bod yn brysur yn hyrwyddo hawliau myfyrwyr drwy gydlynu a chefnogi ystod o ymgyrchoedd a phrosiectau llesiant eleni, gan gynnwys ein hymgyrch Y Tu Hwnt i’r Deuaidd a phrosiect cyffuriau ac alcohol New Narratives.  

Get to know Francesco

Fri 17 Jul 2026

Get to know Alice

Fri 17 Jul 2026

Get to know Laura

Fri 17 Jul 2026

Get to know Gwenno

Fri 17 Jul 2026