Wythnos Undeb Aber yn Dathlu 2026

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Mae Undeb Aber eisiau i fyfyrwyr garu bywyd myfyrwyr...

Mae “Undeb Aber yn Dathlu” yn gyfle i ni ddathlu a dweud diolch yn fawr i’r holl staff rhagorol a myfyrwyr anhygoel sy’n gwneud Undeb Aber yn lle gwych.

Beth sydd ymlaen yr wythnos hon?

Rydyn ni’n addo, trwy gydol yr wythnos hon, y byddwn ni’n rhannu pob stori, llwyddiant ac effaith gennych chi, ein myfyrwyr Aber, yn sgil popeth y buoch chi’n rhan ohono yn ystod y flwyddyn academaidd 2025-2026; rydyn ni am ddathlu’r rhain fesul addewidion Undeb Aber.

Dechreuodd yr wythnos dathlu gyda penwythnos rygbi Aber7s – penwythnos o gystadlaethau rygbi, cymdeithasu ac yn ffodus iawn ychydig o heulwen (cymrwch gipolwg ar ein tudalen Facebook am lluniau’r penwythnos).

Am y tro cyntaf erioed, caiff Seremonïau Gwobrau Undeb Aber yn Dathlu eu cynnal ar yr un noson ar ddydd Iau Mai 7fed yn Undeb y Myfyrwyr;

*diolch i bawb sydd wedi enwebu eraill am y gwobrau uchod ac os na allwch chi ymuno â ni ar gyfer y gwobrau, cadwch olwg am ein cyfryngau cymdeithasol i weld cyhoeddiadau gwobrau yn ystod y digwyddiadau.

Get to know Francesco

Fri 17 Jul 2026

Get to know Alice

Fri 17 Jul 2026

Get to know Laura

Fri 17 Jul 2026

Get to know Gwenno

Fri 17 Jul 2026