Search
Search
Admin
Edit
Log in
Basket
Account
Cymraeg
Toggle navigation
home
Change Aber
Academic Representatives & Faculty Officers
All Student Vote
Campaigns
Elections
Forums
Full-Time Officers
Policy
Senedd
Student Surveys
Sustainability
The Big Meeting
Volunteer Officers
Your Ideas
Tîm Aber
Accreditation
Committee Elections
Key Events
RAG – Raise and Give
Societies & Volunteering Projects
Sports Clubs
Start a Student Group
Tîm Aber Resource Hub
Volunteering
Welsh Community
Advice
Aber Exam Destress
Contact An Advisor
Employment
Health and Wellbeing
Housing and Accommodation
Money and Student Finance
University
About Aber
Affiliations
Celebrates
Constitution
Contact Staff and Officers
Data Protection Statement and Policy
In Aber
Job Vacancies
Our Strategy and Impact
Shop
Translation
Trustee Board
Why advertise With Us?
Wythnos Arian Myfyrwyr: Cyngor Swyddogion
Senthil Raja Kumar
welsh
Rated 5/5 (1 person). Log in to rate.
Wythnos Arian Myfyrwyr: Cyngor Swyddogion
Anna:
Coginio gartre yn amlach
: mae mynd allan i fwyta neu’n aros adre a chael tecawe yn braf iawn, ond gall fod yn ddrud iawn.
Prynu bwyd gostyngedig
: Gyda’r hwyr, mae ardaloedd y bydd Tescos/Spar yn eu llenwi gyda bwyd sydd bron â mynd allan o ddyddiad ar bris is. Dwi’n gweld fod prynu eitemau gostyngedig a’r rhoi yn y rhewgell pan alla’ i wedi arbed llawer o arian i fi.
Prynu mewn swmp
: mae’n werth ystyried prynu eitemau mewn llwyth, yn enwedig nwyddau darfodadwy gan y bydd yn arbed arian yn yr hir dymor. Os ydych chi’n gallu rhannu eitemau gyda’ch ffrindiau dyna well fyth!
Elain:
Gwneud rhestr siopa cyn mynd i’r siop. Os ydych chi fel fi, rydych yn cael eich temptio i brynu stwff diangen wrth fynd i’r siop, felly mae gwneud rhestr yn ddefnyddiol dros ben er mwyn ceisio osgoi hyn.
Defnyddio arian parod ar noson allan, a pheidio â thynnu mwy allan!
Rhowch £1 mewn jar ar ddechrau neu ddiwedd pob wythnos, a trîtiwch eich hunain ar ddiwedd y mis.
Helen:
Un pwysig cynllunio prydau, os wyt ti’n byw gyda ffrindiau da mae bwyta gyda’ch gilydd yn ffordd o rannu’r gost. Mae hyd yn oed yn gweithio os nad wyt ti’n agos iawn at y bobl yn dy fflat/ty achos mae’n arbed arian ac yn sicrhau dy fod di’n bwyta’n iawn.
Mae nôl arian o’r twll yn y wal pan yn mynd allan yn gallu dy help di rhag gwario gormod ac yn gadael i gadw golwg ar faint rwyt ti wedi’i wario yn ogystal â faint a gymerest di allan, beth gei di well?
I bawb sydd ag arferion siopa gwael, dwi wedi cymryd at system lle os pryna’ i un eitem, bydda’ i un ai yn cael gwared ar dri arall neu’n eu rhoddi i elusen fel na fyswn i’n prynu pethach nad oes eu hangen arnaf i yn yr hir dymor ar ryw awydd sydyn.
Tiff:
Cynllun pryd - Gwna gynlluniau prydau wythnosol/misol (beth bynnag sy'n gweithio i ti) a chadwa atynt. Mae hyn yn cyfyngu ar faint o weithiau y byddi di'n mynd i siopa a gelli di hefyd gynllunio rhywbeth arbennig fel un tecawê y mis.
Yfed cyn mynd allan a chadw golwg ar wariant alcohol - Os wyt ti'n hoffi mynd allan a meddwi, ystyria yfed gartref fel dy fod yn gwario llai o arian ar noson allan go iawn, a chadw olwg ar faint rwyt ti'n ei wario tra allan. Dwi'n gwybod y gall hyn fod yn anodd os wyt ti wedi meddwi, ond gallai un noson allan yr wythnos gostio'r un faint â'r siop fwyd wythnosol honno. Felly, mae'n bwysig cadw golwg arno os wyt ti'n ceisio gwario llai.
Os wyt ti’n cael misglwyfau, rho gynnig ar gynhyrchion mislif y gellir eu hailddefnyddio fel y gelli di arbed llawer o arian a helpu'r amgylchedd trwy osgoi cynhyrchion untro. Mae undeb y myfyrwyr yn cynnig amrywiaeth o wahanol gynhyrchion cyfnod y gellir eu hailddefnyddio am ddim. Cysyllta â’n Cynghorydd Undeb y Myfyrwyr yn
union.advice@aber.ac.uk
neu ein Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth yn
suvoice@aber.ac.uk
Bayanda:
Creu 2 gyllideb y mis ac un wythnosol. Mae'n ei gwneud hi'n haws gwybod faint y gelli di ei wario bob wythnos.
Gwna gynllun pryd o fwyd - yna cei di syniad o faint yn union o arian sydd ei angen arnat ti i'w wario ar fwyd a helpu osgoi prynu’n ddiangen wrth siopa am fwyd. Gwiria hefyd yr adran gostyngol i glirio ar gyfer bwyd am bris gostyngol y gelli di ei rewi.
Gwneud cyfrif cynilo sy’n anodd ei ddefnyddio. Er enghraifft, mae fy nghynilion mewn cymdeithas adeiladu, felly mae'n rhaid i mi fynd yn bersonol yn ystod y dydd os ydw i am gymryd arian allan. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anoddach i mi symud arian allan o'm cynilion.
Comments
No comments have been made. Please log in to comment.
2025 Undeb Aber Celebrates: Sports clubs and Societies WINNERS
Wed 07 May 2025
Our promise: “We will provide opportunities to find your Aber community”
Wed 07 May 2025
Aber Exam Destress May 2025
Tue 06 May 2025
Our promise: “to support you to be happy and healthy”
Tue 06 May 2025