#UMAberynDathlu2020: Tîm BUCS y Flwyddyn – Rygbi Menywod

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Cyflwynir gwobr Tîm BUCS y Flwyddyn i glwb sydd wedi perfformio’n eithriadol yn eu cystadleuaeth ac wedi cynrychioli’r Brifysgol i safon uchel.

 

Mae Rygbi’r Menywod, sef yr enillwyr eleni’n llwyr haeddu’r wobr hon. Mae eu hagwedd bositif, ynghyd â’u hangerdd dros eu clwb a’u camp wedi bod yn amlwg ym mhopeth maen nhw wedi’i wneud eleni.

 

Maen nhw’n haeddu’r wobr hon, nid dim ond oherwydd eu tymor anhygoel, ond am gymaint mwy – i’w Capten am gadw trefn, ac i’w Hyfforddwyr am eu hymrwymiad ac am y gymuned wych mae’r clwb hwn yn ei darparu ar gyfer ei aelodau.Mae Rygbi Merched Prifysgol Aberystwyth yn glwb chwaraeon sy'n ymfalchïo mewn cynwysoldeb. Bob blwyddyn, mae menywod nad ydyn nhw erioed wedi cymryd rhan mewn chwaraeon nac wedi bod yn aelod o dîm o'r blaen yn ymarfer ochr yn ochr â chwaraewyr mwy profiadol, gan ddod o hyd i'w lle ymhlith rhwydwaith o ffrindiau a chyd-chwaraewyr. Mae rygbi yn aml cael ei ystyried yn gamp ymosodol a blêr. Mewn gwirionedd, gêm o barch, disgyblaeth a phwyll yw Rygbi sy'n ei gwneud yn ofynnol i chwaraewyr o wahanol gryfderau ddod ynghyd ar gyfer nod cyffredin. Mewn gwirionedd mae lle i bawb ar y cae rygbi, a byddai llawer o aelodau RMPA yn dweud eu bod nhw, drwy chwarae rygbi, wedi dysgu mwy amdanynt eu hunain a'r hyn maen nhw’n gallu ei gyflawni. Mae un peth yn sicr, mae’r merched hyn yn gallu.

 

Proffil chwaraewyr:

Karolina Ciesla
Dechreuodd Karolina ymarfer rygbi gyda thîm y dynion yn ei thref enedigol oherwydd diffyg timau menywod ledled Gwlad Pwyl. Gyda rhywfaint o brofiad yn chwarae Rygbi 7-bob-ochr, daeth Karolina i Aberystwyth i astudio a dod o hyd i RMPA ar unwaith. Meddai “Gwnaeth RMPA i mi deimlo bod croeso i mi, a fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi. Rydw i wedi gwneud ffrindiau y byddaf yn eu cadw am flynyddoedd.” Mae ymuno â'r tîm rygbi wedi ei helpu gyda'i sgiliau Saesneg ac arweinyddiaeth, ac mae Karolina wedi profi i fod yn chwaraewr hynod ddawnus a ffyrnig. Bydd RMPA yn gweld colled ar ei hôl pan fydd hi'n graddio’r Haf hwn, ond maent yn hyderus y bydd hi’n parhau i herio’r dynion pan fydd hi’n ôl yng Ngwlad Pwyl.

Cassy Hudson
Ymunodd Cassy â RMPA yn 2016 heb erioed chwarae rygbi o’r blaen. Drwy waith caled ac ymrwymiad, gwnaeth gynnydd cyflym iawn, ac yn ystod y tair blynedd, mae wedi gwasanaethu fel ysgrifennydd cymdeithasol ac is-gapten. Dewiswyd hi’n chwaraewr gorau gan ei chyd-chwaraewr hefyd, oherwydd ei hymroddiad anhygoel i’r clwb a’i sgiliau gwirioneddol drwy gydol pob gêm. Er gwaethaf y ffaith ei bod wedi graddio, aeth Cassy ymlaen i ennill ei chymwysterau hyfforddi ac mae'n parhau i wasanaethu'r clwb fel hyfforddwr! Yn y gorffennol mae Cassy wedi helpu i hyfforddi rygbi ieuenctid lleol ac ar hyn o bryd mae'n chwarae i dîm lleol yng Ngheredigion. Mae'r clwb a'r gymuned yn hynod o ffodus ei chael, ac yn edrych ymlaen at ei gweld yn parhau i chwarae’r gêm a disgleirio yn ei gyrfa rygbi.

 

Mae Rygbi'r Menywod wedi gweithio'n galed iawn y tymor hwn, gan ddatblygu eu hunain fel tîm, ymarfer sawl gwaith yr wythnos ac ar ben hynny, trefnu sesiynau ffitrwydd-rygbi gyda'r Ganolfan Chwaraeon. Roedden nhw’n ddi-guro ar ddiwedd tymor 2019/20, gan orffen ar frig eu cynghrair BUCS; arweiniodd hyn at eu dyrchafu i Haen 2 y Gorllewin ar gyfer y tymor nesaf.

 

Arweiniodd ymrwymiad, ymroddiad a buddugoliaethau’r tîm hwn at ennill gwobr Tîm BUCS 2020 eleni. Rydyn ni'n edrych ymlaen at eu gweld nhw'n cystadlu’r flwyddyn nesaf, wrth iddyn nhw fynd o nerth i nerth.

 

Comments