Sbotolau ar Glybiau a Chymdeithasau Newydd: AberImprov

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Dyma'r cwestiynau a ofynnwyd gennym i'r grwp:

  • Pam aethoch chi ati i sefydlu’r clwb / cymdeithas?
  • Beth wnaeth eich ysbrydoli i sefydlu’r clwb / cymdeithas? // Beth wnaeth eich ysbrydoli i chi gymryd rhan!
  • Beth yw rhai o uchafbwyntiau'r clwb / cymdeithas hyd yn hyn?
  • Beth sydd gennych chi ar y gweill ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd?
  • Beth oedd y rhan orau o sefydlu clwb / cymdeithas newydd? // Beth oedd y rhan orau o gymryd rhan yng ngweithgareddau clwb / cymdeithas newydd?
  • Beth yn eich barn chi oedd yr her fwyaf wrth gychwyn clwb / cymdeithas newydd? // Beth yn eich barn chi oedd yr her fwyaf i gymryd rhan yng ngweithgareddau clwb / cymdeithas newydd?
  • Sut all pobl gadw’n gyfoes â’ch gweithgareddau a chysylltu â chi?

 

Aber Improv: byrfyfyr, chwerthin ac actio. Mae'r tri gair yma’n disgrifio'n berffaith beth yw pwrpas ein cymdeithas. Sefydlwyd ein cymdeithas oherwydd bod ein Llywydd (Catrin) wedi bod ar gynllun cyfnewid ym Mhrifysgol McGill yng Nghanada ac wedi ymuno â McGill Improv. Roedd Catrin wrth ei bodd â dynameg peidio â gorfod dysgu sgript ond dal i gael y cyfle i actio a chwrdd â chriw o bobl ddigrif o’r un anian â hi, felly penderfynodd ddod ag ysbryd Byrfyfyr yn ôl i Aberystwyth, gyda chymorth Marika (ysgrifennydd) a Rhian (swyddog y Gymraeg). Hyd yn hyn, mae Aber Improv wedi bod wrthi’n darparu gweithdai wythnosol, dwy awr ar y tro, i ddechreuwyr; hyn yn ogystal â threfnu digwyddiadau cymdeithasol i’r grwp, boed hynny’n mynd allan i fwyta neu ambell waith fynd am ddiod. Ar ôl ymarfer yn galed iawn yn y gweithdai drwy gydol y flwyddyn, cynhaliodd Aber Improv eu sioe gyntaf er budd Arts 4 Dementia ym mis Mawrth, gan godi £84.

Yr her fwyaf yr ydym wedi'i hwynebu hyd yma yw sefydlu aelodaeth gref, ond ar ôl dyfalbarhau mae gennym oddeutu 20 aelod gweithredol bellach. Mae'r cyfnod cwarantîn wedi dod â ni'n agosach fyth; rydym yn dal i gynnal gweithdai dwy awr, ond gyda golwg wahanol ar berfformio byrfyfyr. Mae aelodau'n dod at ei gilydd i greu a dysgu eu dosbarthiadau eu hunain, boed hynny’n fyrfyfyr, ioga, noson gemau neu ddim ond yn gwerthfawrogi’r hwdis rydyn ni wedi mynd ati i’w llifo â llaw.

Os ydych chi am gymryd rhan yn ein gweithgareddau, chwiliwch amdanom ar...
Facebook: @aberimprov
Instagram: @aberimprov
E-bost: scty259@aber.ac.uk
Gwefan: Improvisation Society

Byddwn bob amser o gwmpas ar nos Iau rhwng 6-8pm, naill ai'n bersonol neu ar-lein, felly ymunwch â ni heddiw am amser hwyliog dros ben a chadwch lygad am fideo hyrwyddo yn ystod cyfnod y Glas, yn ogystal â mwy o sioeau!


A yw hyn wedi eich ysbrydoli i sefydlu clwb / cymdeithas? Ymunwch â ni a dewch yn rhan o Deulu #TîmAber! Does ond angen i chi fod â 10 o aelodau i gychwyn.

Am fwy o wybodaeth, ewch i...
Clybiau Chwaraeon: https://www.umaber.co.uk/timaber/chwaraeon/clwbnewydd/
Cymdeithasau: https://www.umaber.co.uk/timaber/cymdeithasau/cymdeithasnewydd/

Comments