Ni ydi Undeb y FLWYDDYN!

bannerwelsh

Rydyn ni MOR falch ein bod wedi cael ein henwi’n Undeb y Flwyddyn yng Ngŵyl Dathlu NUS Cymru.

Roedd ein swyddogion yn falch iawn o dderbyn y wobr  yng Nghaerdydd heddiw, i gydnabod y gwaith rydym wedi’i wneud ar ffioedd a chapiau ailsefyll, ochr yn ochr â mentrau fel gweithdai gwallt â gwead, Cronfa Caledi’r Clybiau a’r Cymdeithasau, ein gwaith cymorth ar Wythnos Arian i Fyfyrwyr, a’n hymdrechion parhaus i gryfhau cymuned Gymreig yn Aberystwyth. Mae hon yn adlewyrchiad gwirioneddol o’r ymdrech ar y cyd drwy gydol y flwyddyn gan yr holl swyddogion, staff a myfyrwyr a fu’n rhan ohoni.

Hefyd, clod arbennig i Millie a Nanw, llywodraethwyr myfyrwyr eleni, a gasglodd wobrau i ddathlu’r gwaith caled a wnaethant y tu ôl i’r llenni i gynrychioli safbwyntiau’r myfyrwyr ar gyngor y brifysgol.

Get to know Francesco

Fri 17 Jul 2026

Get to know Alice

Fri 17 Jul 2026

Get to know Laura

Fri 17 Jul 2026

Get to know Gwenno

Fri 17 Jul 2026