Mae Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn falch o ddychwelyd adref o Wobrau Arolwg Ymgysylltu â Gweithwyr Elusen UCM 2023 gyda thystysgrif 'Sêr Boddhad cyffredinol y Gweithwyr'.
Cynhaliwyd y Seremoni Wobrwyo (a ddychwelodd yn 2023) yn Birmingham Guild of Students yn ystod Cyfnewidfa Strategaeth UCM ar 29 o Dachwedd 2023.
Yn ystod y gwobrau, roedd UMAber yn falch iawn o dderbyn tystysgrif 'Sêr Boddhad cyffredinol y Gweithwyr’ yn Dilyn ein canlyniadau cyffredinol yn Arolwg Ymgysylltu â Gweithwyr 2023.
Arolwg Ymgysylltu â Gweithwyr
Gallai pob undeb neu gymdeithas a gymerodd ran yn yr Arolwg Ymgysylltu â Gweithwyr eleni gyflwyno eu hastudiaeth achos yn erbyn gwahanol gategorïau. Eleni fe wnaeth 42 o undebau/cymdeithasau arolygu eu staff a'u staff myfyrwyr.
Cyflawnodd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth (UMAber) y sgôr uchaf yn y sector cyfan am rannu gwybodaeth a dysgu ar draws y sefydliad.
Roedd UMAber hefyd wrth eu boddau i gael sgôr o fewn y 10 uchaf o’r holl undebau am 'Wobrwyo' ac o fewn y 10 uchaf ar gyfer gweithwyr sy'n gobeithio aros gyda'r Undeb am fwy na 12 mis (cadw).
Mae Prif Weithredwr UMAber, Trish McGrath yn falch o'r wobr a chanlyniadau UMAber yn yr arolwg:
"Rydym yn sefydliad sydd wedi'i adeiladu ar ein gwerthoedd a'n hegwyddorion ac rydym bob amser yn rhoi ein myfyrwyr a'n pobl wrth galon yr hyn a wnawn. Rydym wrth ein bodd yn derbyn y gydnabyddiaeth hon am foddhad ein gweithwyr a byddwn yn parhau i roi ein pobl a'n hegwyddorion ar flaen ac yn ganolog i'r hyn a wnawn."