Erthygl Crynodeb Tanaka 2025–2026

officerblogwelsh

Mae’n wythnos olaf eich Swyddogion 25/26... yr wythnos hon, byddwn ni’n cyhoeddi erthyglau i grynhoi uchafbwyntiau eu rolau eleni!


Saff dweud bod fy amser fel y Swyddog Llesiant yn Undeb Aber wedi bod yn fythgofiadwy, yn y ffordd orau bosib.  Dwi wedi profi sawl eiliad, her a buddugoliaeth fawr ar hyd y ffordd. Yn Undeb Aber, y nod yw sicrhau fod myfyrwyr Aber yn cael taith fyfyrwyr anhygoel, eu bod yn hapus, yn iach, ac wedi’u grymuso, gyda ffrindiau oes a gorwelion disglair. Dwi’n ddiolchgar o fod wedi cael bod yn rhan o dîm sy’n mynd y tu hwnt i’r disgwyl i sicrhau hyn, felly dyma dri uchafbwynt gen i o fy amser fel swyddog. 

Yn gyntaf, cyflwyno yw un o’m huchafbwyntiau y flwyddyn hon.  Cyflwynais mewn rhai o’r Sgyrsiau Croeso yn rhan o’r Wythnos Croeso wrth ochr ein tîm Swyddogion brwdfrydig. Ar ôl y Sgwrs Croeso i fyfyrwyr rhyngwladol, cawsom ryngweithio â myfyrwyr a oedd eisiau deall bywyd y myfyrwyr a’r hyn y mae’n ei ofyn i lywio’r pwysau ynghlwm ag ef. Myfyrwyr sydd wrth galon rolau swyddogion, a dwi wedi bod wrth fy modd yn eu gweld yn cael eu traed danynt, goresgyn heriau a chael hyd i’w ffrindiau mewn ffyrdd annisgwyl. Bues i hefyd yn gweithio gyda’r Pennaeth Hygyrchedd a Lles, John Harrington, i gynnal cyflwyniad ar les i fyfyrwyr blwyddyn sylfaenol. Wnaethom hefyd gyflwyniad ar les yn ystod adegau o straen, ansicrwydd a baich gwaith llethol i fyfyrwyr blwyddyn olaf yn yr Adran Daearyddiaeth, model y mae Gwasanaethau’r Myfyrwyr yn gobeithio ei weithredu ar draws gwahanol adrannau yn y dyfodol. Cyflwynais ychydig ynghylch y gwaith y mae’r Undeb yn ei wneud yn nigwyddiad Cyngor Hil Cymru/Hanes Pobl Dduon 365. Caed canlyniadau buddiol wedi’r digwyddiad gyda mwy o eglurder ar ba feysydd y gallai’r Undeb a staff y Brifysgol gydweithio. Es i hefyd â’r afael â sgyrsiau anodd wrth i fi fyfyrio ar fy swydd fy hunan fel swyddog yn cyfrannu tuag at y newid systemig rwy’n gobeithio ei weld. Dyma ddiolch o galon i’r cydweithio gawsom eleni.  

Yn ail, gwerthfawr ar y naws oedd cydweithio gyda myfyrwyr ar amryw o ymgyrchoedd! Dwi wedi ennill cymaint o wybodaeth trwy weithio ar yr ymgyrchoedd gwrth-sbeicio a bws yn ogystal â’r gweithgor DALlE (Du, Asiaidd, a Lleiafrif Ethnig). Rydyn ni wedi llwyddo i ennyn cyfranogiad gan y gymuned leol yn y dref ee Cyngor Sir Ceredigion i helpu cyflwyno arhosiad newydd yn Fferm Penglais yn rhan o wasanaeth y bws 301. Rydyn ni hefyd wedi tynnu aelodau o Adran Taith y Myfyriwr a’r Cyngor i mewn i helpu adnabod strydoedd a golau gwael ynddynt a’r hyn y gellid ei wneud i greu strydoedd saffach i fyfyrwyr. Lle digon saff yw Aber o gymharu â rhai dinasoedd, ond ceir helynt serch hynny ac mae bob tro modd gwneud mwy i sicrhau ei bod yn saffach fyth i fyfyrwyr a thrigolion. Gwych oedd cael bod yn rhan o ymgyrch gynyddol sydd â’r nod o wneud bywyd yn haws i fyfyrwyr. Mae myfyrwyr o wahanol gefndiroedd ethnig weithiau yn cael eu hesgeuluso a’u diystyru mewn bywyd bob dydd, felly roedd yn fraint cael creu lle i ennyn eu diddordeb trwy gyfarfodydd tŷ, gweithdai gwallt gweadog â thrinwyr gwallt profiadol, Grace ac Oluwabukunolami a’r prosiect myfyrwyr DALlE gyda Student Minds. Mynychodd ychydig o’r myfyrwyr ar y gweithgor weithdy a redwyd gan Osaro Otobo, sylfaenydd Making Diversity Count, sefydliad effaith gymdeithasol â’r nod o feithrin amgylcheddau cynaliadwy, cynhwysol ac arloesol. Y myfyrwyr sydd wedi gwneud y rôl hon yn werth chweil, a byddaf yn trysori am byth pob cyfranogiad i lwyddiant ymgyrchoedd a digwyddiadau. 

Yn olaf, uchafbwynt mawr oedd ennill undeb y flwyddyn! Mae aelodau o staff yr Undeb yn gweithio’n galed i wneud i bethau ddigwydd a hoffwn i fod wedi gwerthfawrogi eu cyfranogiad yn fwy pan yn fyfyrwraig. Arwyr pob un yw ein Prif Swyddog Gweithredol, a’n timau Cyfleoedd, Cyngor a Lles, Cyllid, Llais a Chyfathrebu ac Ymgysylltiad!   Bues i’n rhan o’r tîm Cyngor a Lles mawr ei fri. Mae Annmarie, ein Pennaeth Pobl a Lles, a’n Cynghorydd Myfyrwyr, Molly, wedi sicrhau fy mod i’n cadw’n bwyllog a chall trwy hyn i gyd, a byddaf yn ddiolchgar iddynt am eu doethineb (heb ei ail), eu cymorth a’u gofal! Mae’r tîm Swyddogion i fi weithio gydag ef eleni wedi bod yn anhygoel. Roeddwn i’n poeni i ddechrau gan ein bod mor unigryw, gyda chefndiroedd a ffyrdd gwahanol o wneud pethau. Fodd bynnag, aeth hi’n iawn yn y pendraw, ac roedd yn gyfle dysgu gwych. Dwi wedi dysgu gwytnwch a chael hwyl ochr yn ochr â’r tîm o ferched sydd ag agwedd gwych tuag at weithio, hiwmor da, a syniadau Tik-Tok di-baid! Mae Millie, Nanw, Esperanza a Ffion i gyd yn arbennig ac dwi wedi dysgu cymaint oddi wrth y modd y byddan nhw’n cefnogi myfyrwyr a staff, yn ddiamod!

Mae’r swydd hon wedi rhoi llawer o gyfleoedd. Dwi hefyd wedi dysgu am fod yn ymddiriedolwr a sut mae hynny’n wahanol i’m rôl fel cynrychiolydd myfyrwyr. Dwi wedi bod yn rhan o bwyllgorau a chyfarfodydd dylanwadol lle y gellir dadlau dros leisiau myfyrwyr a’u hyrwyddo mewn gwahanol ffyrdd. I fi, roedd yn flwyddyn i’w chofio ac mae cymaint o ddatblygiad personol wedi dod o’r swydd hon fel Swyddog Llesiant. 

Comments

Get to know Francesco

Fri 17 Jul 2026

Get to know Alice

Fri 17 Jul 2026

Get to know Laura

Fri 17 Jul 2026

Get to know Gwenno

Fri 17 Jul 2026