Digwyddiad Dod i Nabod Dyfodiaid Cynnar
Dyma ddigwyddiad Cwrdd a Chyfarch i unrhyw fyfyrwyr a fydd yn dechrau eu cwrs cyn gweithgareddau'r Wythnos Groeso.
Cyfle gwych i gwrdd â phobl sy'n debyg i chi yw digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch. Yn y digwyddiad anffurfiol ei naws ceir snacs a diodydd a'r cyfle i gymysgu.
Fe gewch hefyd wneud arwydd drws ar gyfer eich ystafell!