FFAIR TAI
Bob blwyddyn, mae Undeb Aber yn cynnal Ffair Llety a Thai sy’n rhoi cyfle i chi gael cyngor gan wahanol fudiadau o fewn y sector tai yma yn Aberystwyth. Eleni, dydyn ni ddim am i unrhyw un fethu allan, gan ei bod yn bosib y bydd gennych chi fwy o gwestiynau nawr nag erioed o’r blaen!
Yn y Ffair Tai, gallwch chi:
- Sgwrsio ag asiantau tai sydd â thai a fflatiau ar gael
- Sgwrsio â swyddfa Llety’r Brifysgol ynghylch opsiynau ar y campws
- Cymharu neuaddau’r Brifysgol â thai yn y sector preifat
- Cael cyngor ariannol, ynghylch contractau a thai yn gyffredinol
- Sgwrsio â Chanolfan Gynghori’r Undeb a Chymorth i Fyfyrwyr y Brifysgol i ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych chi.
Cynhelir y Ffair Dydd Mawrth 2 Rhagfyr, 10am–4pm @ Prif Ystafell – Undeb Aberystwyth