UMCA

 

 

 

Join

Please log in to join this organisation.
 

 

 

 

 

Mae UMCA yn darparu llais a cymuned i fyfrywr Cymraeg eu hiaith, dysgwyr a'r chwilfrydig!
 

 

 

 

S’mai, Elain ‘dw i a fi yw Llywydd UMCA ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/2024, blwyddyn eithriadol o gyffrous gyda UMCA yn dathlu’r hanner canrif. Yn gyntaf oll, croeso i Aber, y Brifysgol orau yng Nghymru, wrth gwrs! Yn wir, mi gefais i dair blynedd gwbl fythgofiadwy yn y coleg ger y lli, a fy swydd i yn ystod y flwyddyn nesaf yw sicrhau eich bod chi hefyd yn cael yr un profiadau amhirsiadwy, yn ogystal â chynrychioli lleisiau myfyrwyr Cymraeg o fewn y Brifysgol.

Felly pam sefydlu UMCA? Sefydlwyd UMCA yn ystod y flwyddyn academaidd 1973/1974 i gynrychioli buddiannau myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth. Ymysg ei llwyddiannau gellir nodi, ymgyrch i sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn fwy diweddar ymgyrch i Achub Pantycelyn, sef Neuadd Gymraeg y Brifysgol. Yn ogystal â ymgyrchu dros hawliau myfyrwyr mae UMCA yn cynnal nifer o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn er mwyn hyrwyddo diwylliant Cymreig o fewn y Brifysgol megis Swn, noson o gerddoriaeth Gymraeg a gynhelir yn fisol yn yr Undeb Myfyrwyr, ac un o uchafbwyntiau’r calendr i fyfyrwyr Cymraeg, Y Ddawns Ryng-golegol, ble daw Undebau Cymraeg Prifysgolion Cymru i gyd i Aberystwyth i fwynhau gig gyda rhai o fandiau gorau’r sin roc Gymraeg. Cynhelir llawer mwy o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn, felly dewch i gasglu Blwyddiadur UMCA 2023/2024 o Swyddfa UMCA ym Mhantycelyn.

Y cyngor gorau sydd gen i i'r glasfyfyrwyr ydy gwneud y mwyaf o bob cyfle sydd yn dod i'ch rhan, nid yn unig oherwydd ei fod yn ffordd wych o gymdeithasu a gwneud ffrindiau, ond hefyd oherwydd bod atgofion gorau mwyafrif o fyfyrwyr Cymraeg Aber yn deillio o weithgareddau a drefnir gan y cymdeithasau Cymraeg.

Os oes unrhyw beth yn eich poeni yn ystod y flwyddyn dewch draw am sgwrs. Fy swydd i yw sicrhau eich bod caru bywyd fel myfyrwyr Cymraeg yn Aberystwyth, ac felly bydd drws fy swyddfa ym Mhantycelyn a’r Undeb ar agor bob amser.

Edrychaf ymlaen at flwyddyn arall lwyddiannus gydag UMCA yn eich cwmni chi.

 

 

 

No current events
There are no current news articles.