Mae Aberystwyth wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd am y 4 blynedd ddiwethaf a dwi wedi mwynhau pob eiliad ohono. Er fy mod i wedi wynebu ambell i her, fyddai hi ddim yn werth chweil hebddyn nhw.
Beth wyt ti wedi ei fwynhau am fod yn Swyddog UMAber?
Mae Aberystwyth wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd am y 4 blynedd ddiwethaf a dwi wedi mwynhau pob eiliad ohono. Er fy mod i wedi wynebu ambell i her, fyddai hi ddim yn werth chweil hebddyn nhw. Pan gefais fy ethol yn Swyddog Gweithgareddau ar gyfer 2016/17, cefais i ymdeimlad rhyfedd o ddirgelwch ac wrth ddynesu at ddechrau fy nhymor, doedd gen i fawr ddim syniad o'r hyn y byddwn i am ei wneud – serch hynny, doeddwn i ddim yn ofnus oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl. Dangosodd yr wythnos gyntaf i mi pa mor bleserus fyddai gweddill y flwyddyn. Mae'n bosib dweud y bu plymio i mewn i'r pen dwfn a mynd i SU16 a chwrdd â swyddogion eraill o bob Undeb arall yn y DU yn eithaf brawychus ond yn gymaint o hwyl o sbri.
Fel Swyddog Gweithgareddau, dechreuais i'r flwyddyn academaidd mewn ffordd wych gyda'r Wythnos Weithgareddau, sef un o fy atgofion mwyaf melys. Dwi'n cofio gweld a chwrdd â'r holl fyfyrwyr newydd yn dod ar gyfer yr Wythnos Weithgareddau a'r cyffro a deimlais pan gyrhaeddais i ar gyfer fy Wythnos Chwaraeon gyntaf yn Aber – bu hon yn ddechrau da i weddill y Glas.
Yn y rôl hon, dwi wedi gweithio gyda thîm staff mor gryf sydd wedi gwneud pob ymdrech i wneud i'r holl brofiad fod yn bleserus ac yn werth chweil, gan fy helpu i gyda fy holl syniadau gwallgof am ymgyrchoedd a rhoi cymorth angenrheidiol iawn i mi! Hefyd, dwi wedi cael y fraint o gwrdd a gweithio â phobl, gwleidyddion, darlithwyr a chymeriadau ysbrydoledig hynod ddylanwadol, a llawer mwy.
Mae Undebau Myfyrwyr yn enwog am eu hawyrgylch cyfeillgar a chroesawgar ac wrth fod yn rhan o fudiad ehangach y myfyrwyr, dwi wedi magu hyder ynof fi fy hun, gan fod yn fwy pendant a pheidio â bod ofn dweud yr hyn dwi'n ei feddwl. Dyma'r holl resymau pam dwi wedi mwynhau fy mlwyddyn yn swyddog llawn-amser yn yr Undeb.
Dwi'n credu mai fy hoff beth am y swydd hon yw pan mae rhywbeth rydych chi'n gwybod bod y myfyrwyr am ei weld yn cael ei wireddu ar ôl gwaith ac ymdrech diflino o sefyll eu corner!
Beth yw dy 5 hoff atgof o’r flwyddyn?
- Wythnos Mae'r Ferch Hon yn Gallu
Mwynheais i'n fawr mynd allan a gwneud ymarfer corff (roeddwn i'n teimlo'n well yn gorfforol ac yn feddyliol) ond yr hyn fwynheais am yr wythnos hon oedd cael cipolwg ar rai o'n myfyrwyr a gallu dathlu eu cyrraeddiadau.
- Superteams
Dwi'n gwybod bod Superteams yn ddigwyddiad blynyddol ac nid yw mewn gwirionedd yn rhan o agenda gwleidyddol, ond mwynheais y profiad yn fawr iawn oherwydd cymaint y mwynheuodd y myfyrwyr a gymerodd ran. Mae'n rhoi cymaint o foddhad gwybod bod rhywbeth rydych chi a'r bobl sydd o'ch amgylch wedi'i drefnu'n llwyddiant ac yn uchafbwynt i bobl eraill, yn ogystal â rhoi pleser personol i mi!
- UMAber yn Dathlu Cymdeithasau / Chwaraeon
Roedd cynnal nosweithiau gwobrwyo'n benodol i ddathlu'r pethau anhygoel mae ein myfyrwyr wedi'u cyflawni eleni, fel unigolion neu ar y cyd, yn uchafbwynt, ac roedd yn ffordd wych o ddirwyn y flwyddyn i ben gyda phobl hapus o'ch amgylch!
- Rhwydweithio, gweithio ac ennill (CRYN LAWER!)
Fel y soniais eisoes, mae mwy i fudiad y myfyrwyr nad UMAber; mae'n gymuned enfawr sy'n gallu bod yn gefn i chi pan fyddwch angen hynny. Mae cael y cyfle i fynychu llawer o wahanol gynadleddau, boed yn benodol i Gymru, menywod neu swyddogion sabothol, i gyd wedi cyfrannu at yr wybodaeth a'r profiadau dwi wedi elwa ohonynt pan fyddaf yn gadael (mae deigryn yn fy llygad). Heb son am y tîm staff sydd gennym ni yn UMAber, sydd i gyd wedi cyfrannu at fod yn UM eithriadol.
Mae ein swyddogion, ein myfyrwyr a'n staff wedi cyfrannu cymaint at UMAber, ac mae wedi talu ar ei ganfed. Enillom wobr Undeb Myfyrwyr AU y Flwyddyn - mae'n anodd curo hynny! Yn bersonol, dwi'n falch o'r Wobr UCM am Gyfleoedd Myfyrwyr a enillom hefyd - oedd yn deyrnged wirioneddol o'r hyn mae ein myfyrwyr, staff a fi wedi'i gyflawni eleni. Hefyd cawsom gryn lwyddiant yng Ngwobrau Cenedlaethol Cymdeithasau UCM, gan ennill sawl gwobr!
- Gwneud pethau y dwedais i y buaswn yn eu gwneud
Dwi'n gwybod bod 'cael gwared â'r cerdyn sborti' a 'gwell cyfleusterau' wedi bod ar faniffesto pob Swyddog Gweithgareddau ers am byth, ond llwyddais yn hyn o beth (gyda chryn lawer o waed, chwys a dagrau a llwyth o gefnogaeth). Mae UMAber ar fin dechrau cyfnod newydd ar gyfer ein grwpiau myfyrwyr, a bydd yn cymryd peth amser i addasu, ond dwi wedi gweithio mor galed i gyflawni'r hyn roedd myfyrwyr ei eisiau, felly dwi'n teimlo'n falch iawn am hynny.
Cyflawniad mwyaf y flwyddyn (neu'r hyn rwyt ti'n falch ohono)?
Mae cymaint dwi'n falch ohono eleni, yr holl wobrau rydyn ni wedi'u hennill, fel cymdeithasau, fel cyfleoedd ac fel UM yn ei gyfanrwydd. Serch hynny, y peth dwi'n teimlo balchaf ohono yw'r ffaith fy mod i wedi cwblhau'r pethau hynny oedd wedi'u cynnwys yn fy maniffesto, gan ddiddymu'r cerdyn sborti a sicrhau gwell mannau storio a chyfleusterau. Mae'r ffaith mai fi oedd y Swyddog Gweithgareddau cyntaf i gyflawni hyn yn fy ngwneud i deimlo'n falch iawn.
Neges hwyl fawr
Felly dyna'r cyfan gen i; am flwyddyn anhygoel! Dwi wedi dysgu cymaint, ac wedi cael blwyddyn o brofiadau a heriau gwych, cwrdd â phobl a gwneud pethau i greu newid cadarnhaol ar ran ein myfyrwyr. Ni fyddai eleni wedi bod yr un fath pe na bai am ein myfyrwyr, a roddodd i mi rywbeth i ymladd drosto! Diolch i bawb; mae'n mynd i fod yn anodd gadael y dref glan-y-môr fach, wallgof a difyr hon.