Blog Cyntaf Rhun

Mae’r ddau fis cyntaf o waith wedi hedfan gyda llwyth o bethau yn digwydd.

officerblogwelshrhunwelshWelshaffairs
No ratings yet. Log in to rate.

Shwmae

Mae’r ddau fis cyntaf o waith wedi hedfan gyda llwyth o bethau yn digwydd. Yn ystod yr wythnos gyntaf fe aethom i fyny i gynhadledd UCM yn Lerpwl, mi oedd yn brofiad gwerth chweil ac yn fodd o gwrdd â swyddogion sabothol eraill o draws y Deyrnas Unedig. Yr wythnos ganlynol fe gafwyd cyfle i ddathlu gydag wythnos graddio. Roeddwn yn falch o fedru gwneud araith ar ran yr undeb myfyrwyr i danseilio pwysigrwydd o’r profiad cymdeithasol i’ch gradd. Fe drefnais ddefod raddio UMCA ar ddiwedd yr wythnos sy’n rhan bwysig o galendr UMCA. Gwych oedd medru cael Emyr Llywelyn fel gwr gwadd i’r noswaith.

Un o ddigwyddiadau marchnata mwya'r Brifysgol yw'r Eisteddfod Genedlaethol, a gynhaliwyd yn y Fenni eleni. Mi ges i’r pleser o fod yn stondin y Brifysgol trwy gydol yr wythnos a braf oedd medru cwrdd â nifer o ddarpar fyfyrwyr yn y stondin ac ym Maes B. Uchafbwynt yr wyl oedd aduniad ganol Haf UMCA lle gwelwyd nifer fawr o aelodau, cyn aelodau a darpar aelodau a dwi’n ddiolchgar bod Tymbal wedi gallu chwarae yn y digwyddiad.

Cyn medru dadflino o’r ‘Steddfod daeth cyfle i fynychu’r Talwrn sef prif ddigwyddiad hyfforddi UCM Cymru. Braf oedd medru cael y gynhadledd yn Aberystwyth ac yn well fyth yn cael ei chynnal ym Mhantycelyn.

Ynghyd a hyn dwi wedi bod yn brysur yn paratoi a chynllunio i groesawu’r myfyrwyr yn ôl i Aber. Mae trefniadau Wythnos y Glas mwy neu lai yn barod a dwi’n falch o gyhoeddi bod noswaith newydd wedi'i hychwanegu at y drefn eleni o dan yr enw ‘Porthi’r 5,000’. Dwi hefyd wedi lansio logo newydd sbon UMCA fydd yn ffit ar gyfer y ddeugain mlynedd nesaf. Er mor neis yw Aber yn yr haf, dwi’n edrych ymlaen at ddiwedd Medi a holl fwrlwm Wythnos y Glas.

Comments

 
There are no current news articles.