Dewch i fy nabod: Llywydd 2022

officerblogwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Enw: Aisleen Sturrock

Cyflwyniad bach:

Fy enw i yw Aisleen (Ash) a hi/nhw yw fy rhagenwau a fi yw eich Llywydd Undeb Myfyrwyr. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at weithio yn y rôl hon ac rwy’n gobeithio y byddaf yn gwneud cyfiawnder i’r swydd. Rwy am fod yn llais myfyrwyr gweithgar felly cysylltwch â fi gydag unrhyw beth.

Rhowch ffaith ddiddorol neu randwm i ni amdanoch chi eich hun...

Rwy wedi gwylio yr holl 11 o gyfresi o Modern Family cannoedd o weithiau cymaint y gallaf ailadrodd y rhan fwyaf o’r rhaglenni wrth i fi eu gwylio.

Dewiswch tri gair sy’n eich disgrifio chi:

Chwilfrydig, Cyffrous, a Chyfeillgar.

Eich pryd olaf ar y ddaear... Beth sy’ ar y fwydlen? A pha 3 pherson enwog fyddech chi’n gwahodd i gael bwyd?

Pizza caws mawr gyda sglodion cawslyd ar yr ochr, fanta oren neu IPA i yfed gyda tiramisu neu gacen gaws mefus i orffen. Dwedwn ni neu, byddwn i’n cael tiramisu a chacen gaws mefus.

Buaswn i’n eistedd gyda Harry Styles, Jeremy McKinnon, a Margaret Atwood.

Beth yw eich diddordebau?

Rwy’n caru ffilmiau a binjo cyfresi teledu. Rwy’n caru mynd i’r traeth a hoffwn ei wneud yn amlach.

Rwy wrth fy modd yn ysgrifennu straeon ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn strwythurau gwleidyddol ac mae gen i gymaint o lyfrau amdanynt sydd wedi dylanwadu’n fawr ar fy ysgrifennu yn enwedig pan yn chwilio am ffuglen ddystopiaidd.

Pam wnaethoch chi benderfynu i sefyll am y rôl hon?

Fues i ar bwyllgor Tickled Pink a fi oedd swyddog yr amgylchedd a chynaladwyedd y llynedd ac fe wnes i ei fwynhau’n fawr. Roeddwn wrth fy modd yn gweithio gyda phobl eraill a threfnu digwyddiadau ac ymgyrchoedd. Des i nabod Undeb y Myfyrwyr a’i strwythurau sylfaenol yn araf deg ac roeddwn eisiau bod yn rhan ohoni.

At beth ydych chi’n edrych ymlaen y mwyaf eleni?

Rwy’n edrych ymlaen at ryngweithio gyda myfyrwyr ac at greu a rhedeg ymgyrchoedd fy mod i’n credu y bydd y myfyrwyr yn eu mwynhau’n fawr.

Beth rhai o’r achosion sydd o bwys i chi?

Mae iechyd yn gyffredinol o bwys i fi, boed yn iechyd meddwl, iechyd corfforol neu iechyd rhywiol. Fe gredaf i fod y pethau i gyd yn mynd llaw yn llaw ac mae rhaid i ni rannu’r agweddau anhygoel o bob un a rhoi mwy o wybodaeth i fyfyrwyr ynghylch beth arall maent yn gallu ei wneud i’w gwella.

Rwy hefyd yn angerddol iawn dros yr amgylchedd a sut mae unigolion a chwmnïoedd yn gallu chwarae eu rhan. Rwy’n edrych ymlaen at weld y pethau gwych mae’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn ei wneud yn barod a’r pethau y gallem ni rannu gyda myfyrwyr a gweld pa newidiadau y gallem ni wneud.

Beth yw eich hoff le yn Aberystwyth i gymdeithasu?

Rwy wrth fy modd yn mynd i ben traeth y gogledd o dan fryn craiglais a chael coelcerth gyda ffrindiau. Yna neu byddwch yn fy ngweld mewn un o’r tafarndai lleol ar noson gwis tafarn.

Pe gallech chi fod yn anifail, pa un fyddech a pham?

Fe fuaswn i’n eliffant oherwydd eu bod yn cwl ac maent yn meddwl bod bodau dynol yn ciwt yn yr un ffordd rydyn ni’n meddwl bod cwn bychain yn ciwt ac dyna fy hoff beth erioed.

Oes gennych unrhyw draddodiadau neu ofergoelion sy’ braidd yn wahanol?

Pagan ydw’i ac rwy’n person eithaf ysbrydol, felly mae gen i ofergoel ar gyfer popeth. Un peth fyddai i beidio â chael dau ddrych yn wynebu ei gilydd ac i beidio â chael edrych yn eich wynebu tra ydych chi’n cysgu. Mae gen i rywbeth am ddrychau yn gyffredinol a bod yn onest.

Oes yna un peth yn eich barn chi, y dylai pawb ei wneud/rhoi blas arno o leiaf unwaith yn eu hoes? 

Creda’ i y dylai pawb fynd i Comic Con (neu unrhyw beth arall sy’n debyg ei natur) o leiaf unwaith yn eu bywyd. Doedd i erioed wedi mynd tan y llynedd oherwydd nad oeddwn yn credu y buaswn i'n ei fwynhau oherwydd nad wy’n hoff o’r ‘holl bethau nerdy yna’. Fel mae’n digwydd, fe ydw’i, ac roedd yn ddiwrnod cwl iawn. Mae cymaint i’w wneud boed yn pori’r stondinau sy’n llawn busnesau bychain neu fynd i drafodaethau. Doeddwn i byth wedi deall faint o enwogion sy’n mynd i’r Cons. Roedd Matthew Lillard yno yn ystod fy nhro cyntaf ac roedd fy mhlentyn mewnol mewn cariad, yn cwrdd â’r person oeddwn yn ei ffansio o Scream a Scooby Doo. Con Arswyd oedd hyn felly oedd yna weithgareddau fel tai arswyd gyda cosplê-iaid anhygoel eu golwg yn cerdded o gwmpas. Rwy’n credu bod pobl yn meddwl mai peth ar gyfer grwp bach o bobl yn unig yw comic cons, ond rwy’n credu y gallai unrhyw un ei fwynhau – un ai hynny neu fy mod i wir yn nerd mawr haha.

Rydych chi ar eich ffordd i’r gwaith ar fore Llun... pa gân fydd yn y cefndir?

Naill ai Arguing with Thermometers gan Enter Shikari neu fersiwn Miley Cyrus o Like a Prayer. Mae’r ddwy gân yn fy llenwi gyda dopamine sy’n angenrheidiol ar gyfer bore Llun.

Rhowch un o’ch hoff lefydd rydych chi wedi ymweld â nhw i ni a pham?

Mae yna barc coed bach y tu allan i Aber fy mod i wrth fy modd yn mynd iddo yn ystod yr haf oherwydd ei fod mor dawel bob tro y byddwch chi ar eich pen eich hun fel arfer (heblaw am ambell un sy’n mynd am dro gyda’u ci). Mae yna raff i siglo arno ac offerynnau cerddorol pren rhyfedd, mae wir yn ddiwrnod allan braf. Mae’n dipyn o daith i ffwrdd ond yn un braf.

Comments