Yr argyfwng costau byw a myfyrwyr

officer blogwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Mae Undeb y Myfyrwyr yn ymwybodol iawn o’r heriau mae myfyrwyr yn eu hwynebu eleni. Rydyn ni wedi cael ein bwrw gan broblem unwaith mewn oes a fydd yn ei gwneud hi’n anoddach fyth i fyfyrwyr orffen eu graddau hyd eithaf eu gallu. Mae Undeb y Myfyrwyr a thîm y Swyddogion Llawn Amser yn gwneud eu gorau glas i sicrhau ein bod yn gallu cefnogi myfyrwyr cystal â phosib. Rydyn ni’n newid adeilad yr Undeb er mwyn ymaddasu i anghenion myfyrwyr yn ogystal â mynychu cyfarfodydd y Brifysgol a defnyddio ein llais i wneud yn siwr bod myfyrwyr yn cael eu hystyried yn y cyfnod anodd sydd ohoni. Roeddwn eisiau ysgrifennu’r erthygl hwn i roi enghreifftiau o’r bygythiadau posibl i fyfyrwyr eleni a thynnu sylw hefyd at y pethau rydyn ni wrthi’n eu gwneud yn yr Undeb i’ch cefnogi chi cymaint â phosib.

Rydyn ni’n trafod syniadau ac yn cydweithio gydag ymgyrch Costau Byw (Cost of Living) yr UCM i ddod o hyd i’r ffordd orau y gallwn ni fod yn gefn i’n myfyrwyr eleni. Mae llawer o fyfyrwyr yn mynd i ddioddef gan ddiystyrwch y llywodraeth eleni heb fawr o gymorth gyda biliau trydan na chynnydd mewn cyllid myfyrwyr. Mae cyllid myfyrwyr ar sail faint mae eich rhieni yn ennill gan gymryd os ydy eich rhieni yn ennill digon, yna byddant yn gallu eich helpu. Nid yr achos mo hyn i lawer, ac mae rhaid i rhan fawr o fyfyrwyr gael gwaith yn ystod y tymhorau prifysgol er mwyn fforddio byw.

Yn ôl arolygon UCM, pwysau neu bryderon ariannol yw’r prif resymau bod rhaid i fyfyrwyr adael y Brifysgol a gan fod costau ond yn codi a does dim cynnydd mewn incwm, rydyn ni’n poeni y bydd rhaid i fwyfwy o fyfyrwyr chwilio am waith tâl a bydd hyn yn ei dro yn cael effaith negatif ar eu hastudiaethau neu yn y senario gwaethaf, bydd rhaid iddynt adael oherwydd nad ydynt yn gallu fforddio byw. Rydyn ni hefyd yn pryderu am yr effaith negatif y bydd pwysau cynyddol yn cael ar iechyd meddwl a chorfforol myfyrwyr. Yn blaen, efallai na fydd y myfyrwyr a oedd yn iawn gynt, yn iawn eleni. Yn ôl arolwg UCM, mae 77% o fyfyrwyr yn credu y bydd yr argyfwng costau byw yn cael effaith arnynt gyda 42% yn dweud y bydd yn cael effaith fawr.

Gwelwn ni gynnydd yn nifer y myfyrwyr sy’n chwilio am waith. Mae cael gwaith rhan amser yn wych – rwy’n cytuno, ond os bydd rhaid i fyfyriwr weithio yn fwy nag astudio, fydd yn fwy anodd iddynt wneud cystal yn eu haddysg ag y gallent. Does gan fyfyrwyr ddigon o arian fel y mae, ond pan fydd pris popeth yn codi a bydd eu benthyciadau myfyrwyr yn aros yr un maint, bydd ganddynt lai fyth nag o’r blaen ac bydd hyn hefyd, yn ei dro, yn cael effaith uniongyrchol ar lesiant myfyrwyr a’u gallu i lwyddo yn eu hastudiaethau.

Felly, yma yn Undeb y Myfyrwyr, rydyn ni’n meddwl am ffyrdd o weithio er lles ein myfyrwyr a’u helpu yn y flwyddyn o’n blaenau. Rydyn ni’n creu oergell a chegin gymunedol a fydd yn barod i’w defnyddio cyn bo’ hir. Rydyn ni hefyd wedi creu’r prosiect ail-law lle mae myfyrwyr yn gallu dod i gael gafael ar eitemau a dillad angenrheidiol. Mae’r prosiect yn awr ar agor o dan risiau Undeb y Myfyrwyr. Rydyn ni am fod yn gefn i fyfyrwyr a gwneud yn siwr nad ydynt yn goroesi yn y Brifysgol yn unig, ond eu bod hefyd yn ffynnu ac yn gallu cael profiad llawn o’r brifysgol.

Mae Undeb y Myfyrwyr wrthi’n gweithio ar lawer o wahanol ffyrdd o helpu gwella bywyd myfyrwyr ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gael eu rhannu gyda chi. Yn y cyfamser, cadwch olwg ar ein gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol i weld beth ydyn ni’n wneud.

Os oes unrhyw beth a drafodwyd yn y blog hwn o bryder i chi neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am gostau byw, dewch atom ni i gael cymorth. Mae gennym ni gynghorydd myfyrwyr

arbennig a all helpu gydag unrhyw beth ac os na fydd yn gallu helpu, mae’n gallu eich cyfeirio at y bobl orau.

Comments