Yn cyflwyno'r Swyddog Materion Academaidd

welsh
Materion Academaidd

Helo! Chloe ydw i a fi yw eich Swyddog Materion Academaidd ar gyfer 2019/20, yma i annog myfyrwyr i chwarae rôl weithredol mewn gwneud Aberystwyth yn lle gwell! Yn ystod fy amser fel myfyriwr israddedig, astudiais seicoleg (sydd ddim yn golygu fy mod i’n gallu darllen meddyliau, sydd braidd yn siomedig). Treuliais y rhan fwyaf o fy amser yma yn yr undeb fel cynrychiolydd academaidd, swyddog gwirfoddol ac aelod o bwyllgor sawl cymdeithas.

Penderfynais sefyll ar gyfer fy rôl yn Chwefror 2019 oherwydd fy mod i wedi dysgu dros y blynyddoedd bod ymgysylltu â fy undeb myfyrwyr yn gallu rhoi grym i unigolion, a does dim byd rwyf am ei weld yn fwy nag i fyfyrwyr eraill gael teimlo’r un fath.

 

Beth fyddai eich 3 phrif awgrym ar gyfer unrhyw fyfyrwyr newydd sy'n dechrau yn Aberystwyth ym mis Medi?

1. Ewch allan i gwrdd â phobl! Gall Wythnos y Glas fod yn gyfnod dryslyd, ond mae pob un ohonoch yn yr un cwch, yn ceisio dod o hyd i ffrindiau newydd a gweithgareddau i gymryd rhan ynddyn nhw, felly ewch i siarad â llwyth o bobl newydd ac ymunwch â chymdeithasau a chlybiau. Byddwch yn gwneud ffrindiau am oes yma yn Aberystwyth, ac mae’n bosib na fyddan nhw’n rhannu ty â chi nac ar yr un cwrs, felly rhowch gyfle i’ch hun gymryd rhan mewn digwyddiadau a chwrdd â phobl newydd.
2. Ewch ati i wirfoddoli! Byddwch yn sicr o fod wedi dod i’r brifysgol i ennill tystysgrif gradd a chael amser gwych (hynny fyddwch chi'n gallu ei gofio), ond agwedd arall o fyfyriwr cyflawn a chyflogadwy yw un sydd ag ymrwymiad i fwy na’r pwnc mae’n ei astudio. Gallwch ymgymryd â phrosiect y tu allan i’ch astudiaethau, fel ymuno â’r Tîm-A, sefyll ar gyfer rôl cynrychiolydd academaidd, codi arian er gyfer elusen neu amryw o bethau eraill; cofnodwch eich oriau gan ddefnyddio system ar-lein yr UM i gael tystysgrif anhygoel i ychwanegu at eich CV. Mae'n gyfle i chi wneud y gymuned yn Aberystwyth yn well lle, a chael hwyl wrth wneud hynny!
3. Gwybod sut i ddweud eich dweud! - Mae UM Aber yn addo rhoi cyfle i fyfyrwyr gael y gair olaf, felly buaswn yn annog unrhyw fyfyrwyr newydd i wneud hynny! Ewch ati i ganfod pwy yw eich swyddogion a’ch cynrychiolwyr (mae’r cyfan ar wefan UMAber, ac mae wynebau eich swyddogion i’w gweld ym mhobman). Dylech fynychu cyfarfodydd parth sy’n ymwneud â phob agwedd o fywyd myfyrwyr (llesiant, chwaraeon, cymdeithasau, diwylliant Cymreig ac academia), a gwybod sut i gael eich syniadau wedi’u clywed. Os ydych chi am greu newid, rydyn ni am eich helpu chi i wneud i hynny ddigwydd, felly gwnewch yn sicr eich bod yn gwbl gyfarwydd â’ch cysylltiadau!

 

Enwch rai achosion sy'n bwysig i chi.         

Fel myfyriwr a fynychodd brifysgol ymhell iawn o gartref, roedd yn bwysig iawn i mi allu treulio amser yn ymweld â’r teulu, gan hefyd allu cael mynediad i’m gwaith ac adnoddau, yn arbennig pan oeddwn i’n paratoi ar gyfer arholiadau yn ystod y gwyliau. Rwyf yn angerddol am wneud yn sicr bod myfyrwyr yn gallu cael mynediad i bopeth sydd ei angen arnynt i lwyddo oddi ar y campws, neu o leiaf y tu hwnt i oriau gwaith, megis cynnwys y cwrs a deunyddiau darlithoedd, erthyglau perthnasol mewn cyhoeddiadau a’r caniatad angenrheidiol i’w cyrchu, a meddalwedd sy’n benodol i’r cwrs.

 

Pe gallech chi newid un peth ym Mhrifysgol Aberystwyth, beth fyddai hynny? 

Pe bai’r ddaear yn wastad, byddai hynny’n wych.

 

Dewiswch dri gair sy'n eich disgrifio orau. 

Anghyffredin
Allblyg
Angerddol

 

Beth yw eich hoff bryd bwyd?         

Unrhyw beth lle mae dwywaith cymaint o grefi ag unrhyw beth arall; gwell fyth os oes pwdin swydd Efrog yn rhan o’r arlwy.

 

Oes gennych chi unrhyw hobïau neu ddiddordebau?        

Yn anffodus i’r rheiny sy’n rhannu swyddfa â fi, dwi wrth fy modd â cherddoriaeth. Dwi o hyd yn canu, yn hymian neu’n symud o gwmpas y lle i gyfeiliant fy ngherddoriaeth fy hun; dwi wedi cael fy hyfforddi i chwarae 7 offeryn cerdd, ac wedi dysgu fy hun i chwarae ambell un arall. Mae fy holl fywyd allgyrsiol yn ymwneud â chwarae cerddoriaeth, neu wario gormod o arian yn gwrando ar bobl eraill yn gwneud hynny. Dwi hefyd yn gaeth i adrenalin, ac mae gen i restr o 300 reid ffair mewn tua 20 o wledydd dwi am roi cynnig arnynt cyn i mi farw!

 

Beth yw eich hoff leoliad yn Aberystwyth?

Nos Sul Y Dafarn ar y Pier, Karaoke Dyna’r cyfan

 

Enwch hoff le rydych chi wedi ymweld ag e, a dwedwch pam.    

Whistler, British Columbia, Canada. Yr. Holl. Ffordd. Rwyf yn ddigon ffodus i ddweud, yn 21 oed, fy mod i wedi treulio dros draean o fy mywyd yn byw ychydig y tu allan i Vancouver BC, sy’n HYFRYD. Does dim byd yn mynd i fod yn well na’n penwythnosau a dreuliais gyda fy nheulu ym mhentref Gemau Olympaidd 2010 yn mynd ar y linell-zip, gyrru ATV, sgïo, mwynhau’r golygfeydd godidog o’r mynyddoedd a thynnu lluniau o arthes a’i chenawon. Buaswn yn mynd yn ôl yno ar amrantiad, heb unrhyw amheuaeth.

 

Pe baech chi'n uwch-arwr, pa bwerau fyddai gennych chi?

Byddai unrhyw un sy’n fy adnabod yn fy nisgrifio fel y person mwyaf TRWSGL i (geisio) cerdded y ddaear, felly fy mhwer arbennig i fyddai gwneud i’r rheiny sy’n fy mhechu’n eithriadol o drwsgl, er mwyn i’w cynlluniau ddisgyn yn ddarnau y tu hwnt i’w rheolaeth. Dwi’n credu y byddai hyn yn sail i ffilm braidd yn wirion, ond hynod ddoniol.