Dhan ydw i, Llywydd yr Undeb; dechreuais fy nhaith fel cynrychiolydd academaidd, ac yna fel cynrychiolydd cyfadran a Chynrychiolydd i UCM. Penderfynais ymgeisio am rôl y Llywydd oherwydd bod myfyrwyr yn Aberystwyth wedi bod yn dweud wrthyf ers blynyddoedd beth maen nhw’n ei hoffi am eu hamser yma a beth ddylid ei wella. Mae fy mlaenoriaethau’n alinio’n gryf â’r hyn mae corff y myfyrwyr ei angen a’i eisiau gan eu Prifysgol a’u Hundeb.
Graddiais i o’r Gyfadran Fusnes a Gwyddorau Ffisegol gyda gradd gyd-anrhydedd BSc mewn Rheolaeth Busnes a Chyfrifiadureg. Rwyf wrth fy modd â chwaraeon dwr, rwyf yn mynd allan yn rheolaidd, dwi’n mwynhau chwarae gemau fideo, gwylio Netflix a dwi’n archebu cryn lawer o fwyd parod.
Beth fyddai eich 3 phrif awgrym ar gyfer unrhyw fyfyrwyr newydd sy'n dechrau yn Aberystwyth ym mis Medi?
1. Dewch i adnabod pobl: Mae pawb yn Aber yn gyfeillgar ac mae’r myfyrwyr sydd yma i gyd yn yr un cwch, felly peidiwch â bod yn swil ac ewch i siarad â phobl. Ymunwch â chymdeithasau a chyfranogwch mewn clybiau chwaraeon, ewch i’r digwyddiadau cymdeithasol ac unrhyw ddigwyddiadau eraill; mwynhewch eich hun a gwnewch y gorau o’r profiad!
2. Mynnwch esgidiau safonol: Dylech fynychu cymaint o ddarlithoedd â phosib a gwneud pethau ar y campws ac yn y dref; o’r herwydd, mae’n bur debyg y byddwch chi'n cerdded cryn lawer. PARATOWCH ar gyfer hyn - mae llawer o elltydd yn Aber, felly mynnwch esgidiau pwrpasol, a bydd eich traed yn ddiolchgar am hynny.
3. Mynnwch gyflenwad o fwyd: Dylech fod â stoc o fwydydd sych, pethau mewn tuniau a bwyd wedi’i rewi; mae’n ei gwneud yn hawdd i chi gael prydau cyflym pan fyddwch chi ar frys. A pheidiwch ag anghofio hylif golchi llestri, papur ty-bach a bagiau bin; mae’n bwysig osgoi bod heb y pethau hanfodol hyn yn eich ty pan fyddwch chi eu hangen.
Enwch rai achosion sy'n bwysig i chi.
Mae’r amgylchedd yn bwysig iawn i mi; dyna pam rwy’n awyddus i ni fod yn brifysgol di-blastig. Hoffwn weld biniau compost ar y campws, a buaswn wrth fy mod pe bai’r Brifysgol a’r Undeb yn mabwysiadu cynllun beicio i’r gwaith ar gyfer staff a myfyrwyr. Rydyn ni’n gweithio ar orfodi’r Brifysgol i leihau faint o gynhyrchion olew palmwydd a ddefnyddir ac i osgoi olew palmwydd yn gyfangwbl.
Rwyf yn angerddol am lesiant myfyrwyr; credaf nad yw incwm myfyrwyr yn ddigon uchel ac rwyf am wella pethau i fyfyrwyr, fel gwella ansawdd eu llety neu gael gwared â chostau golchi dillad. Mae gormod o fyfyrwyr yn gorfod gwario hyd eithaf eu gorddrafft, sy’n peri cryn lawer o straen.
Pe gallech chi newid un peth ym Mhrifysgol Aberystwyth, beth fyddai hynny?
Buaswn yn cynyddu cyllido ar gyfer cymdeithasau a chlybiau, fel y gallant fforddio cynnal digwyddiadau, mynd ar deithiau neu fynnu gwell cyfarpar. Mae mwy i’r profiad prifysgol na dim ond astudio. Felly buaswn yn cefnogi hynny’n ogystal â darparu gwell gwasanaethau drwy’r undeb ar gyfer cymorth iechyd meddwl a llesiant.
Dewiswch dri gair sy'n eich disgrifio orau.
Pwyllog. Rhesymol. Hwyl
Beth yw eich hoff bryd bwyd?
Lasagne. Digonedd o gaws
Oes gennych chi unrhyw hobïau neu ddiddordebau?
Chwarae offerynnau cerdd er mwyn cael hwyl. Rwy’n hoffi caiacio, hwylio a rhwyfo pan gaf y cyfle. Rwyf wrth fy modd yn gwylio rygbi a phêl-droed, a chwarae pan gaf gyfle i wneud hynny. Mae gen i ddiddordeb mewn diwylliannau ac ieithoedd eraill, a dwi’n hoffi teithio.
Beth yw eich hoff leoliad yn Aberystwyth?
Mae’r Academi’n lle da ar gyfer gwylio pêl-droed neu rygbi. Mae Coffee #1 yn wych ar gyfer ymlacio. Sophie’s ar gyfer brecwast.
Enwch hoff le rydych chi wedi ymweld ag e, a dwedwch pam.
Efrog Newydd yw fy hoff ddinas, mae bwrlwm yn y lle ac mae cymaint i'w weld ac i’w wneud; mae rhywbeth wastad yn digwydd yno. Mae wedi bod yn wych bob tro dwi wedi bod yno.
Ond y lle gorau dwi wedi bod i gael dianc ac ymlacio yw Sweden. Mae’n hardd ac mae’n hamddenol.
Pe baech chi'n uwch-arwr, pa bwerau fyddai gennych chi?
Telegludo Hefyd bod yn gallu stopio amser