Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn ennill achrediad Undebau Myfyrwyr o Ansawdd UCM.
Heddiw, yn dilyn blynyddoedd o drawsnewid a datblygu, roedd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn falch iawn o dderbyn gwobr Undebau Myfyrwyr o Ansawdd mewn seremoni yn San Steffan.
Ar ôl gweithio i ddatblygu Undeb y Myfyrwyr er mwyn sicrhau bod myfyrwyr Aber yn caru bywyd myfyrwyr, mae UMAber wedi bod yn gweithio tuag at yr achrediad fel dangosydd allweddol o lwyddiant strategol. Datblygwyd Undebau Myfyrwyr o Ansawdd gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) i sicrhau a gwella ansawdd, safonau ac effeithiolrwydd cyffredinol undebau myfyrwyr ledled y DU. Mae'n declyn rheoli unigol sy'n cydgloi ac yn cyflenwi safonau a chodau perthnasol sy'n bodoli eisoes o fewn mudiad y myfyrwyr. Er mwyn cael eich ystyried fel undeb myfyrwyr achrededig, mae angen i undeb gydymffurfio â'r holl rwymedigaethau statudol ac arferion gorau, a chaiff Undebau sy'n cymryd rhan eu graddio fel a ganlyn: Gweithio tuag at, Da, Da iawn neu Ragorol mewn 12 maes gwaith allweddol.
Meddai Trish McGrath, Prif Weithredwr UMAber “Mae cymryd rhan yn Undebau Myfyrwyr o Ansawdd UCM wedi bod yn rhan heriol ond hynod werthfawr o'n taith fel sefydliad. Rydym yn arbennig o falch ein bod wedi cyrraedd lefel Ragorol yng nghategorïau Pobl a Chynrychiolaeth ac Ymgyrchu, ac mae’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni yn gyffredinol yn brawf gwirioneddol o waith caled ein staff, ein swyddogion a'n myfyrwyr dros y tair blynedd diwethaf. Er ein bod yn gwybod bod gennym dipyn o waith i'w wneud o hyd i gyflawni'n gweledigaeth yn llawn ac UM y gall pob myfyriwr fod yn falch ohono, mae marc ansawdd UMA wedi rhoi rhywbeth i ni ei ddathlu, yn ogystal â rhai syniadau gwerthfawr ar gyfer datblygu yn y dyfodol. Byddwn yn annog pob Undeb i gymryd rhan.”
Gan ymuno â phymtheg o Undebau Myfyrwyr eraill, gan gynnwys Undeb Prifysgol Leeds, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerfaddon ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerefrog, bydd UM Aber yn dal yr achrediad am dair blynedd. Roedd cyfranogi yn y cynllun yn un o amcanion allweddol Cynllun Strategol UMAber ar gyfer 2017-2020 ac mae'n dangos safon uchel y ddarpariaeth yn Aberystwyth yn y sector Undebau Myfyrwyr.