Undeb Dadlau Aberystwyth - Efrog IV 2020

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Ar benwythnos 1af Chwefror, anfonodd Undeb Dadlau Aberystwyth 6 aelod i gystadlu yn Efrog IV 2020, 4 i gystadlu fel siaradwyr mewn timau o 2, a dau i gystadlu fel beirniaid. Roedd y gystadleuaeth yn cynnwys 4 rownd, a rownd derfynol fawreddog i'r pedwar tîm gorau a’r chwe beirniad gorau.

James Purvis, ein Harchwiliwr, oedd yr un a ddaeth agosaf at gyrraedd y rownd derfynol fawreddog fel beirniad, gan lwyddo i argyhoeddi'r prif feirniad fod ei benderfyniad o ran sut i osod y timau yn eu trefn yn gywir mewn 3 o'r 4 rownd.

Er na chyrhaeddodd ein cystadleuwyr eraill mor agos at y rownd derfynol â James, cawsant amser gwych o hyd, gan ddangos bod Aber yn gallu cystadlu â’r goreuon fel Durham, Caeredin a Lerpwl, gydag Alex McCreadie a Tom Fraser yn perfformio orau ar y cyd o blith cynrychiolwyr Aber, gan sgorio 71/100 o bwyntiau ar gyfartaledd am siarad. Doedd Zach Godley-McAvoy a Joe Geraghty ddim yn rhy bell ar eu hôl nhw, gyda sgôr barchus o 69.75 a 69.25 o bwyntiau am siarad.

Roedd y dadleuon eu hunain yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, o feysydd cyffredin fel newid yn yr hinsawdd a gwleidyddiaeth ymylol, i gynigion mwy anarferol ynghylch dilysrwydd celf nad yw'n gynrychioladol a chreu system Filwrol Siapan. Serch hynny, y ddadl fwyaf poblogaidd o bell ffordd, oedd pa ddiod i’w chael yn y dafarn yn y digwyddiad cymdeithasol ar ôl y gystadleuaeth.

Hoffai'r Pwyllgor Dadlau anfon diolch arbennig i Tom Morrissey o'r UM, oherwydd heb ei gymorth a'i ymdrechion, ni fyddai'r gystadleuaeth wedi bod yn bosibl.

Crynodeb gan Joshua Elsey, Cynullydd Allanol Undeb Dadlau Aberystwyth

Comments