#UMAberynDathlu2020: Y Gymdeithas sydd wedi Gwella Fwyaf Eleni - CwnAber

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Dyfernir y wobr am ‘Y Gymdeithas sydd wedi Gwella Fwyaf' i gymdeithas a all ddangos gwelliannau o ran llwyddiant, ysbryd a threfniadaeth. Mae hefyd yn bwysig bod hyn yn cynnwys ymroddiad i barhau â’r cynnydd hwn mewn blynyddoedd i ddod.

Mae CwnAber, ein henillydd eleni, yn gymdeithas gymharol newydd. Fe ddechreuon nhw ychydig dros 3 blynedd yn ôl, gan fynd ymlaen i ennill y Gymdeithas Newydd Orau yn 2018-19. Yr hyn sy’n rhagorol yw’r ffaith, dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf maent wedi llwyddo nid yn unig i ddyblu nifer eu haelodaeth, maent hyd yn oed wedi mynd ymlaen i fod y gymdeithas fwyaf ar y campws. 

Dechreuodd y pwyllgor y flwyddyn yn gryf, gan fuddsoddi yn y gwaith o hyrwyddo'r gymdeithas. Ar ddechrau Wythnos y Glas, roedd ganddynt “gymorth ar ffurf nawdd, taflenni a baneri proffesiynol wedi'u gwneud, ynghyd â nwyddau i’w gwerthu”. Roeddent hefyd wedi treulio’r haf yn cynllunio eu digwyddiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd gan eu galluogi i ddarparu mwy o gyfleoedd i'w haelodau gymryd rhan.  

Mae'r pwyllgor wedi trefnu amryw o ddigwyddiadau, rhai er mwyn codi arian, yn ystod y flwyddyn. Mae eu hymdrechion wedi arwain at godi dros £1,000 i'r elusen, Cwn Tywys. Yn rhan o’r swm yma mae £360 a godwyd mewn un digwyddiad Tawelu â Chwn / Arwerthiant Teisennau. Yn ogystal, llwyddwyd i godi £200 yn eu digwyddiad Codi Arian y Nadolig ar gyfer mudiad Achub Anifeiliaid Many Tears yng Nghymru. Maent wedi gallu ennyn diddordeb eu haelodau drwy ddarparu ystod amrywiol o weithgareddau gydol y flwyddyn academaidd. Mae hyn wedi cynnwys arwerthiant teisennau, teithiau crefft, nosweithiau ffilm a thawelu â chwn. Ar ben eu hymdrechion codi arian, mae llawer o aelodau wedi gwirfoddoli yn y lloches cwn y tu allan i Aberystwyth, ynghyd â llawer o gyfleoedd gwirfoddoli eraill.

Ar y cyfan, dylai eu hymdrech i godi proffil eu grwp myfyrwyr gael ei gydnabod fel enghraifft ragorol o weithgarwch. Mae'r UM yn edrych ymlaen at weld beth mae CwnAber yn ei wneud y flwyddyn nesaf, a gobeithiwn eich bod chi hefyd!

Beth am gymryd rhan eich hun? Gallwch ganfod mwy am Gymdeithas CwnAber yma:
E-bost: scty226@aber.ac.uk
Gwefan: https://www.umaber.co.uk/organisation/9351/
Facebook: @aberdogssociety
Instagram: @aberdogs

Comments