#UMAberynDathlu2020: Y Gymdeithas Newydd Orau - Addysg Ecolegol

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Bob blwyddyn mae ystod o gymdeithasau newydd yn ymuno â Theulu Tîm Aber. Eleni roedd gwobr y 'Gymdeithas Newydd Orau' yn un o'n rhai a dderbyniodd y nifer fwyaf o enwebiadau. Cyflwynir i gymdeithas sydd wedi'i sefydlu o'r newydd, neu wedi ail-ddechrau, yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Bydd y gymdeithas wedi gweithio'n galed i sefydlu eu hunain a chreu effaith ar fywydau myfyrwyr. 

Ein henillydd cwbl haeddiannol eleni yw'r Gymdeithas Addysg Ecolegol. Fe’i sefydlwyd ar don o newid mewn canfyddiad, ac o’r herwydd, nod y gymdeithas hon yw gwneud y byd yn lle gwell, ac yn y pen draw codi ymwybyddiaeth ynghylch y materion sy’n effeithio arnom ni i gyd. Daeth nifer fawr o enwebiadau i law ar gyfer y grwp hwn, pob un yn sôn am faint roedd aelodau wedi mwynhau eu hamser, y gymuned y maent wedi'i hadeiladu a'r cyfleoedd sydd wedi bod ar gael i iddyn nhw.

“Rwy’n credu bod y gymdeithas hon yn anelu at wneud newid cadarnhaol yn y byd, ac mae’n haeddu’r wobr, gan ei bod yn uno yn hytrach na rhannu pobl sy’n pryderu ynghylch ein planed.” - Enwebydd anhysbys

Maen nhw wedi rhagori wrth greu amgylchedd newydd ffres sy’n galluogi myfyrwyr i gwrdd â phobl o’r un anian â nhw, er mwyn ymrwymo i achosion sy'n agos at eu calonnau. Roedd llawer o enwebiadau yn canmol ymdrechion y pwyllgor. Roedden nhw i gyd wedi gweithio'n galed i gynllunio a chyflwyno eu cyfarfodydd wythnosol, ynghyd â darparu cyfleoedd cymdeithasol i aelodau a hwyluso amryw o ddigwyddiadau codi arian. O ystyried eu bod yn gymdeithas newydd, maent wedi codi dros £200 at wahanol achosion amgylcheddol ac elusennol. Mae eu hymdrechion wedi mynd ymlaen i fod o fudd i bobl frodorol yr Amazon, ynghyd â phrynu dillad, meddyginiaeth, a hanfodion eraill i blant drwy UNICEF.

“Mae'r gymdeithas yn ymwneud ag addysgu pobl am bopeth sy'n ymwneud â'r amgylchedd, ond mae wedi dod yn gymaint mwy. Mae'r gymdeithas hon wedi denu rhai o'r myfyrwyr mwyaf caredig, mwyaf amrywiol a gofalgar yn Aber. Rydyn ni'n gymdeithas o gefnogaeth a chariad, ac mae nifer o aelodau wedi dweud sut mae'r gymdeithas hon wedi gwneud iddyn nhw deimlo'n ddiogel a’u bod yn derbyn gofal, a bod hynny’n golygu cymaint iddyn nhw.” - Enwebydd anhysbys

Mae cydweithredu wedi bod wrth galon y gymdeithas hon o'r dechrau. Aethant ati at y cyd â'r Gymdeithas Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol i gynnal un o'u sesiynau Llyfrau a Chacennau gyda gogwydd amgylcheddol. Fe wnaethant hefyd gymryd rhan mewn amryw o sesiynau casglu sbwriel a drefnwyd gan grwpiau myfyrwyr eraill a grwpiau lleol. Yn ogystal, maent wedi llwyddo i ddenu sylw swyddogion lleol fel Angharad Massow o Gyngor Sir Ceredigion, ac mae Ben Lake, yr AS lleol, wedi eu cynnwys fel siaradwyr gwadd. 

Mae archwilio’r ardal hefyd wedi cael sylw mawr yn y grwp hwn; yn ystod eu hwythnosau cyntaf fe gynhaliwyd 'Taith Gerdded drwy’r Goedwig'. Fe wnaeth hyn alluogi myfyrwyr i ddod yn gyfarwydd â'u hamgylchedd a darganfod rhai o'r mannau gwyrdd lleol. Un o ffefrynnau’r rhai a aeth ati i enwebu oedd y daith o amgylch ‘Siopau sy’n Gydnaws â’r Amgylchedd’! Yn ystod hyn aeth y grwp ati i archwilio'r siopau ag iddynt ogwydd cynaliadwy yn ardal Aberystwyth, gan roi'r wybodaeth i fyfyrwyr wneud dewisiadau sy'n ymwybodol o'r amgylchedd wrth siopa o amgylch Aberystwyth.

“Roeddwn yn nerfus iawn pan ddes i'r brifysgol gyntaf, ac mae Addysg Ecolegol wedi fy helpu'n fawr. Roeddent mor gyfeillgar a chroesawgar. Mae'r grwp hwn yn barod iawn i dderbyn pawb, ac nid oes neb yn cael ei farnu. Mae'n teimlo fel lle diogel. Cyn i mi ddod, doeddwn i ddim yn gallu dychmygu mynd ar nosweithiau cymdeithasol, ond roeddwn i'n teimlo mor gyfforddus yn eu digwyddiadau nhw. Rwyf hefyd wrth fy modd â'r ffaith nad oes pwysau arnoch. Mae yna ddigon o ddigwyddiadau lle nad oes yfed yn digwydd, fel y daith o amgylch siopau eco-gyfeillgar. Rwyf hefyd wrth fy modd bod pawb yn y gymdeithas yn angerddol am yr amgylchedd, a gallwn geisio helpu ein gilydd i helpu'r blaned. Mae'r pwyllgor yn anhygoel ac yn wir haeddu'r wobr hon. Maent wedi gwneud cryn gynnydd eleni. Mae neges y gymdeithas hon yn anhygoel, ond maen nhw hefyd yn grwp hyfryd o bobl gefnogol.” - Enwebydd anhysbys

At ei gilydd, maent wedi creu effaith aruthrol. O ystyried ei bod yn gymdeithas hollol newydd, canfu'r panel fod y grwp hwn wedi mynd ati o ddifrif o’r cychwyn cyntaf. Nid oedd y pwyllgor yn ofni dilyn eu syniadau i ben y daith, yn benodol ymgymryd â syniadau nad oeddent wedi cael eu crybwyll yn Aber o’r blaen. Mae'r Gymdeithas Addysg Ecolegol wedi creu cymuned fywiog o unigolion angerddol; rydyn ni yn yr UM yn edrych ymlaen yn fawr at yr hyn y byddan nhw'n ei wneud y flwyddyn nesaf ac yn gobeithio eich bod chi hefyd!

Beth am gymryd rhan eich hun? Gallwch ganfod mwy am y Gymdeithas Addysg Ecolegol yma:
Email: scty255@aber.ac.uk
Website: https://www.umaber.co.uk/organisation/9907/
Facebook: @EcoEducationSocietyAber
Instagram: @ecoeducationsocietyaber

Comments