#UMAberynDathlu2020: Y Cyfraniad Mwyaf gan Gymdeithas nad yw'n un Elusennol - y Gymdeithas Ddaearydd

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Cyflwynir y wobr am y ‘Cyfraniad Mwyaf gan Gymdeithas nad yw'n un Elusennol’ i gymdeithas y mae ei haelodau wedi rhoi llawer o'u hamser at achos da gydol y flwyddyn, wedi treulio cryn amser yn helpu myfyrwyr neu'r gymuned leol neu wedi codi swm sylweddol ar gyfer elusen.

Eleni, y Gymdeithas Ddaearyddiaeth yw’r enillydd teilwng. Drwy gydol y flwyddyn maent wedi cyfrannu'n weithredol at gyfanswm RAG, gan godi dros £500 i'r elusen o'u dewis, Marie Curie.

Nododd un enwebiad pa mor agos yw’r elusen i lawer ar y pwyllgor, gydag un aelod o’r pwyllgor yn sôn am brofiad diweddar eu teulu gyda’r elusen, a chymaint o gymorth a gawsant. Mae Marie Curie yn cynnig gwasanaeth hanfodol gyda neges allweddol. Mae'r elusen yn credu y dylai pawb sy'n byw gyda salwch angheuol allu cael y gorau o'r amser sydd ganddyn nhw ar ôl, pa mor anodd bynnag y bydd hynny'n teimlo weithiau. 

Cynhaliodd y grwp wythnos RAG lwyddiannus bob tymor. Yn ystod y tymor cyntaf cynhaliwyd cwis ac arwerthiant cwyr elusennol, yn ogystal â noson gymdeithasol yr wyddor. Yn yr ail dymor, cynyddodd eu gweithgareddau; nid yn unig y daeth y cwis yn ôl, ond hefyd cynhaliwyd gwyl gymdeithasol, siop elusennol, cystadleuaeth bobi ar thema daearyddiaeth ac arwerthiant teisennau, raffl gydol yr wythnos, ac yn olaf gêm bêl-droed rhwng y Staff a’r Myfyrwyr. Yn anffodus, enillodd y staff y tro hwn, ond y flwyddyn nesaf byddant yn cael cyfle i adennill tipyn o hunan-barch!

Yr un mor bwysig â chynnal eu gweithgareddau codi arian eu hunain, bu’r Gymdeithas Ddaearyddiaeth yn cymryd rhan weithredol yng ngweithgareddau codi arian grwpiau myfyrwyr eraill, gan ddangos eu hymrwymiad i roi eu hamser at achos da. Drwy gydol y flwyddyn maent wedi bod wrthi’n chwarae Hoci 7-bob-ochr a Phêl-rwyd 7-bob-ochr, ymhlith llawer o weithgareddau codi arian eraill.

Mae'r pwyllgor wedi gweithio'n galed ar eu gweithgareddau RAG, ac mae hynny'n dangos. Ni fyddai’r hyn y maent wedi’i gyflawni wedi bod yn bosibl heb ymroddiad y pwyllgor a’r diddordeb a ddangoswyd gan eu holl aelodau. Mae'r UM yn edrych ymlaen at weld beth mae’r Gymdeithas Ddaearyddiaeth yn ei wneud y flwyddyn nesaf, a gobeithiwn eich bod chi hefyd!

Beth am gymryd rhan eich hun? Gallwch ganfod mwy am y Gymdeithas Ddaearyddiaeth yma:
E-bost: scty02@aber.ac.uk
Gwefab: https://www.umaber.co.uk/organisation/6227/
Facebook: @GeogSocAber
Instagram: @geogsocaber

Comments