#UMAberynDathlu2020: Y Cyfraniad Mwyaf at RAG - PĂȘl-droed Dynion

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Dyfernir y wobr am y Cyfraniad Mwyaf at RAG i glwb ag aelodau sydd wedi rhoi cryn lawer o’u hamser a’u hymdrechion i achos da gydol y flwyddyn, ac yn sgil hynny mae’r clwb wedi gwneud cyfraniad sylweddol at RAG drwy gydol y flwyddyn.  Er gwaethaf y ffaith bod y flwyddyn wedi'i thorri'n fyr oherwydd COVID-19, mae ein clybiau wedi gwneud cyfraniadau enfawr eleni, ac wedi parhau i wneud hynny, sy'n wych i'w weld!

Enillwyr Gwobr 'Cyfraniad Mwyaf at RAG' yw clwb Pêl-droed y Dynion! Mae’r clwb wedi adeiladu partneriaethau ag elusennau lleol yn gynnar yn y academaidd flwyddyn, sydd hefyd wedi galluogi clybiau a chymdeithasau eraill i ddatblygu perthnasoedd tebyg. Sylwodd y clwb ar y diffyg cymorth iechyd meddwl ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ac roeddent am wneud gwahaniaeth. Sefydlwyd eu partneriaeth fwyaf nodedig gyda Mind Aberystwyth. Datblygodd y bartneriaeth hon yn sgil eu hagwedd ragweithiol ac ysgogol, gan gynnwys nifer o glybiau chwaraeon eraill, pob un yn gweithio tuag at nod cyffredin - codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, a chynorthwyo elusennau lleol i ddarparu mwy o wasanaethau iechyd meddwl yn Aberystwyth. Sefydlodd Pêl-droed y Dynion rym unedig 'TîmAber', a thrwy ddod â sawl clwb chwaraeon ynghyd, llwyddwyd i godi miloedd o bunnoedd ar gyfer Mind Aberystwyth.

Er mwyn cyrraedd y cyfanswm hwn, trefnodd y clwb sawl digwyddiad codi arian trwy gydol y flwyddyn. Uchafbwynt blwyddyn TîmAber oedd 'Tachwedd Sobr', a drefnwyd gan Gadeirydd Pêl-droed y Dynion, Marcus Perry; golygodd hyn fod llawer o aelodau TîmAber yn cadw’n sobr am fis cyfan. Aethant ati i godi arian trwy nawdd, a thrwy roi'r arian y byddent wedi'i wario ar ddiodydd tuag at yr elusen. Llwyddodd y digwyddiad hwn yn unig i godi cyfanswm o £3,500 ar gyfer Mind Aberystwyth!

Roedd 'Stars in Their Eyes' yn noson werth chweil, sef digwyddiad karaoke RAG y clwb eleni. Cynhaliwyd y digwyddiad yng nghlwb nos enwog Yoko’s yn y dref, a chodwyd £400 ychwanegol at yr elusen o'u dewis eleni, sef Mind.

Aeth y clwb ati ar ddechrau’r flwyddyn i wneud gwahaniaeth mawr, ac yn sicr fe wnaethant gyflawni hynny, yn ogystal ag uno TîmAber er mwyn cyflawni’r nodau yr oeddent wedi’u gosod. Llwyddodd y digwyddiadau hyn, ynghyd â rhai aelodau unigol yn cael eu noddi i gael tatw parhaol, i godi dros £4,000 ar gyfer Mind Aberystwyth! Disgwylir i'r cyfraniad enfawr hwn gael effaith sylweddol y mae mawr ei angen ar y cyfleusterau iechyd meddwl sydd ar gael i fyfyrwyr cyfredol a myfyrwyr y dyfodol. Llongyfarchiadau i glwb Pêl-droed y Dynion, enillwyr teilwng iawn Gwobr Cyfraniad Mwyaf at RAG eleni.

Comments