#UMAberynDathlu2020: Gwobr Cynaliadwyedd - Addysg Ecolegol

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Yn newydd sbon ar gyfer 2020 mae gennym y 'Wobr Cynaliadwyedd'. Mae'r wobr hon yn cydnabod cymdeithas sydd wedi mynd ati i hyrwyddo cynaliadwyedd o fewn ystod eang o'u gweithgareddau. Un peth sy’n bwysig pan fyddwn yn siarad am gynaladwyedd; dylem gynnwys cynaladwyedd diwylliannol / cymdeithasol, cynaladwyedd amgylcheddol a chynaladwyedd economaidd. Mae hyn yn rhoi llawer o ryddid a chyfle i gymdeithasau fanteisio ar eu cryfderau unigol a gwneud cynaladwyedd yn bersonol i'w grwp nhw. Roedd y panel yn hapus i weld bod amrywiaeth o ran y mathau o gymdeithas a enwebwyd ar gyfer y wobr hon, nid dim ond y cymdeithasau amgylcheddol arferol y byddai'r wobr hon yn eu denu fel rheol.

Llongyfarchiadau enfawr i Addysg Ecolegol, cymdeithas newydd sbon y flwyddyn academaidd hon. Mae’r Gymdeithas Addysg Ecolegol yn ymwneud ag addysgu pobl am yr amgylchedd a materion amgylcheddol; maent yn meithrin cynaliadwyedd ym mhopeth a wnânt ac yn ei bwysleisio'n gryf ymhlith eu haelodau. 

“Mae’r Gymdeithas Addysg Ecolegol yn gwneud cymaint i fod yn gynaliadwy a chadw at egwyddorion byw’n gynaliadwy. Rydyn ni wedi cael siaradwr ar ailgylchu yn dod i mewn, rydyn ni bob amser yn siarad am sut i fyw bywyd mwy cydnaws â’r amgylchedd ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn y gymdeithas yn defnyddio poteli y gellir eu hailddefnyddio." - Enwebydd anhysbys

Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, sefydlodd y grwp gyfres wythnosol o sgyrsiau yn canolbwyntio ar gynaladwyedd, argyfwng yr hinsawdd a ffyrdd ymarferol y gall aelodau wneud eu rhan i helpu. Drwy gydol y flwyddyn maent wedi trafod ystod eang o bynciau ac wedi ymwneud â phob math o wahanol ddisgyblaethau. Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys sesiynau ag iddynt ffocws gwleidyddol, dewisiadau ffordd o fyw fel eu sesiwn 'Byw'r Bywyd Fegan a Llysieuol', yn ogystal â phynciau mwy amrywiol fel 'Mudiadau Amgylcheddol a Chynaladwyedd mewn Celf'. Maent hefyd wedi cael siaradwyr gwadd gwych, yn cynnwys pobl fel Angharad Massow o Gyngor Sir Ceredigion yn siarad am Ailgylchu, ynghyd â'n AS lleol, Ben Lake, yn siarad am newid yn yr hinsawdd.

Er gwaethaf eu bod yn grwp newydd, maent wedi dod yn un o'r cymdeithasau amlycaf sy'n canolbwyntio ar lesiant y byd ac aelodau’r gymdeithas. Cynhaliwyd sesiwn benodol ar Bryder Ecolegol, gan amlinellu ffordd i gadw’n bositif yn y frwydr dros y blaned. Fe wnaethant hefyd fanteisio ar gryfder eu cymdeithas a threfnu ambell daith gerdded drwy’r goedwig. Nid yn unig y mae treulio amser ymysg natur o fudd mawr i lesiant unigolion, roedd y teithiau cerdded hyn yn galluogi myfyrwyr i ddod yn gyfarwydd â'u hamgylchedd a darganfod rhai o'r mannau gwyrdd lleol. 

Mae cydweithredu ac archwilio wedi cael cryn sylw yng ngweithgareddau'r grwp dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn ogystal â’r siaradwyr gwadd y soniwyd amdanynt yn flaenorol, mae'r grwp wedi ymwneud â grwpiau myfyrwyr eraill. Aethant ati at y cyd â'r Gymdeithas Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol i gynnal un o'u sesiynau Llyfrau a Chacennau gyda gogwydd amgylcheddol. Fe wnaethant hefyd gymryd rhan mewn amryw o sesiynau casglu sbwriel a drefnwyd gan grwpiau myfyrwyr eraill a grwpiau lleol. Un peth a amlygodd y panel yn arbennig oedd eu taith o amgylch ‘Siopau Eco-Gyfeillgar!'. Yn ystod y gweithgaredd hwn, aeth y grwp ati i archwilio'r siopau ag iddynt ogwydd cynaliadwy yn ardal Aberystwyth, gan roi'r wybodaeth i fyfyrwyr wneud dewisiadau sy'n ymwybodol o'r amgylchedd wrth siopa. 

Yn olaf, mae eu holl weithgareddau codi arian wedi bod â phwyslais cynaliadwy. Maent wedi mynd ati i werthu teisennau a blodau, cyfnewid dillad a mwy. Mae'r holl arian y maen nhw wedi'i godi wedi mynd tuag at amrywiaeth o elusennau sy’n ymwneud â’r amgylchedd.

“Mae’r Gymdeithas Addysg Ecolegol wedi gweithio’n galed iawn i sefydlu eu hunain eleni ac maent yn bwriadu parhau â’u gwaith gan geisio gwneud mwy o wahaniaeth yn y byd.” - Enwebydd anhysbys

At ei gilydd, o'u sesiynau wythnosol, cydweithredu ag eraill ac amryw archwiliadau; mae Addysg Ecolegol wedi gosod cynaladwyedd ar frig yr agenda ym mhopeth y maent wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Maent yn galluogi myfyrwyr i addysgu eu hunain, gan ddarparu ffyrdd ymarferol iddynt o fyw bywyd sy’n gydnaws â’r amgylchedd, ac yn bwysicaf oll maent wedi sefydlu eu hunain fel cymdeithas gynhwysol. Mae'r UM yn edrych ymlaen at weld beth fydd y Gymdeithas Addysg Ecolegol yn ei wneud y flwyddyn nesaf, a gobeithiwn eich bod chi hefyd!

Beth am gymryd rhan eich hun? Gallwch ganfod mwy am y Gymdeithas Addysg Ecolegol yma:
E-bost: scty255@aber.ac.uk
Gwefan: https://www.umaber.co.uk/organisation/9907/
Facebook: @EcoEducationSocietyAber
Instagram: @ecoeducationsocietyaber

Comments