#UMAberynDathlu2020: Cymdeithas Academaidd y Flwyddyn - Cymdeithas y Gyfraith

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Cyflwynir y wobr am ‘Gymdeithas Academaidd y Flwyddyn’ i’r gymdeithas academaidd, neu sy’n ymwneud â chwrs, sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol i'w hadran, yn ogystal ag i'r Undeb, y Brifysgol a'r gymuned ehangach. 

Lwyddodd Cymdeithas y Gyfraith Prifysgol Aberystwyth, a enillodd y wobr hon eleni, i wneud cryn argraff ar y panel. Roedd amrywiaeth ac ansawdd y gweithgareddau a gynigiwyd i'w haelodau dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf yn sefyll allan, ochr yn ochr â'u hymdrechion taer i uno Adrannau’r Gyfraith a Throseddeg. 

Un enghraifft allweddol o'r uniad hwn oedd Cynhadledd Myfyrwyr y Gyfraith a Throseddeg, a drefnwyd gan Gymdeithas y Gyfraith a'r Gymdeithas Droseddeg. Roedd y llwyfan hwn yn caniatáu i fyfyrwyr ddangos eu doniau a chael eu cydnabod am eu gwaith caled. Gan adeiladu ar y cysylltiadau hyn, cynhaliodd Cymdeithas y Gyfraith a’r Gymdeithas Droseddeg Ddawns Aeaf hynod lwyddiannus. Denodd y digwyddiad staff a myfyrwyr o bob rhan o'r adran gan roi cyfle iddynt gwrdd y tu allan i leoliad academaidd; hyn ynghyd â chryfhau cysylltiadau. Mae'r cydweithrediad o’r fath wedi dod â'r adran ynghyd, gan ganiatáu i fyfyrwyr weithio gyda'i gilydd a rhwydweithio yn eu hadran academaidd.

“Mae cymdeithas y gyfraith yn anhygoel ym mhopeth maen nhw'n ei wneud; maent yn trefnu nifer o ddigwyddiadau gwahanol sy'n helpu myfyrwyr ar draws adrannau. Mae'r pwyllgor cyfan yn unigolion gweithgar ac ysbrydoledig sy'n haeddu cydnabyddiaeth." - Enwebydd anhysbys

Roedd digwyddiadau mewnol eraill yn cynnwys sesiwn hyfforddi ar ddadlau mewn llys, LinkedIn a mathau o brofiad gwaith. Yn ogystal, cynhaliodd y Gymdeithas ddigwyddiadau gyda siaradwyr gwadd ar ystod o wahanol bynciau. Mae'r mathau hyn o gyfleoedd yn caniatáu i aelodau gyfoethogi eu profiad academaidd drwy edrych ar bynciau na fyddent efallai'n eu dysgu'n uniongyrchol ar eu cwrs, yn ogystal â rhwydweithio ag unigolion a sefydliadau allanol a allai arwain at gyfleoedd yn y dyfodol.

Bu Cymdeithas y Gyfraith yn teithio ledled y wlad hefyd. Ym mis Tachwedd, gwahoddodd y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr y pwyllgor i deithio i Gaerdydd gyda phennaeth eu hadran academaidd ac aelodau Swyddfa'r Is-Ganghellor i gymryd rhan yn Nathliad Diwrnod y Sylfaenwyr gyda chyn-fyfyrwyr. Yn ddiweddarach ym mis Tachwedd teithiodd yr aelodau i Birmingham ar gyfer cystadleuaeth Eiriolwr y Flwyddyn a gynhaliwyd gan Ysgol y Gyfraith BPP. Mae'r gystadleuaeth flynyddol yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae'n cynnwys amrywiaeth o senarios achosion llys ffug. Eleni roedd yr achosion yn cynnwys hawliad anaf personol ac achos troseddol yn canolbwyntio ar drosedd aflonyddu. Ar ôl cychwyn yn gynnar o Aberystwyth, aeth yr eiriolwyr ymlaen i gael diwrnod llwyddiannus iawn gyda'r holl gyfranogwyr yn mwynhau’r profiad yn fawr. 

Cyflawniad anhygoel i Gymdeithas y Gyfraith dros y flwyddyn ddiwethaf oedd cael eu henwebu ar gyfer gwobr Cymdeithas y Gyfraith Orau gan LawCareers.Net am ymgysylltu â myfyrwyr yn eu gwobrau cenedlaethol. Mae hyn wedi bod yn wych o ran codi proffil nid yn unig y gymdeithas ond hefyd yr adran a'r brifysgol.

Ni fyddai eu holl lwyddiannau wedi bod yn bosibl heb waith caled ac ymroddiad ar ran y pwyllgor. O'r dechrau maen nhw wedi dysgu bod yn hyblyg ac addasu eu ffyrdd o weithio, gan archwilio ffyrdd newydd o wneud pethau ac adlewyrchu ar hynny ar gyfer y dyfodol. Byddai’n deilwng sôn yma am James Watson. James oedd enillydd ein 'Gwobr Rhagoriaeth Weinyddol' eleni sy'n cydnabod ymroddiad unigolyn i redeg a gweinyddu eu cymdeithas.

Ar y cyfan, mae’r gymdeithas wedi gwneud gwaith gwych o ran dod â'u hadran ynghyd, gan ganiatáu i fyfyrwyr gydweithio a chyfarfod â phobl ar draws cynlluniau gradd. Mae eu pwyllgor wedi gweithio'n galed drwy gydol y flwyddyn gyfan i gynnal ystod o weithgareddau academaidd ac allgyrsiol. Mae'n amlwg nad yw’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni wedi mynd yn ddi-sylw, ar sail eu holl wahanol enwebiadau a llwyddiannau. Mae'r UM yn edrych ymlaen at weld beth fydd Cymdeithas y Gyfraith yn ei wneud y flwyddyn nesaf, a gobeithiwn eich bod chi hefyd!

Beth am gymryd rhan eich hun? Gallwch weld mwy am Gymdeithas y Gyfraith yma:
E-bost: scty235@aber.ac.uk
Gwefan: https://www.umaber.co.uk/organisation/6283/
Facebook: @AberLawSoc
Instagram: @aberlawsoc

Comments