UMAber yn lansio menter Codi Arian ar gyfer Covid-19

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Heddiw rydym yn cyhoeddi menter Codi Arian RAG (Codi a Rhoi) yn benodol ar gyfer cefnogi achosion lleol yn ystod pandemig Covid-19, sydd wedi effeithio ar fywydau bob-dydd pawb.

Rydym wedi gosod targed codi arian cychwynnol o £1,000 drwy dudalen cyllido torfol i gefnogi tri achos lleol a awgrymwyd gan fyfyrwyr, gan gynnwys staff y GIG yn Ysbyty Bronglais, Banc Bwyd Aberystwyth (Stordy Jubilee) a menter New Pathways.

Mae'n bwysig cydnabod yn ystod cyfnod mor anodd, y bydd y sefyllfa bresennol wedi effeithio ar unigolion mewn gwahanol ffyrdd, gan olygu na fydd pawb yn gallu cyfrannu.

Fodd bynnag, rydym am annog pawb a all gefnogi'r fenter codi arian i wneud hynny, yn enwedig grwpiau myfyrwyr a gwirfoddolwyr. Rydyn ni'n gwybod bod llawer o ddigwyddiadau diwedd blwyddyn wedi cael eu canslo o ganlyniad i'r argyfwng presennol, ac rydyn ni'n gobeithio drwy annog myfyrwyr i feddwl am eu gweithgareddau a'u digwyddiadau codi arian eu hunain, y gallwn ni helpu i ddod â myfyrwyr ynghyd yn ystod y cyfnod hwn o ynysu.

I gyfrannu ewch i… www.justgiving.com/crowdfunding/umabersucovid19fundraiser

Comments