UMAber yn Croesawu Aelod Staff Cymdeithasau Newydd

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Mae’n bleser gennym groesawu aelod newydd o'r tîm i UMAber yr wythnos hon - dewch i gwrdd â Tom!

Ymunodd Tom â ni’r wythnos hon fel y Cydlynydd Datblygu Cymdeithasau newydd, ac wrth iddo ymgyfarwyddo â’r Undeb, manteisiwyd ar y cyfle i ofyn ychydig o gwestiynau a dod i'w adnabod rywfaint yn well.

Ynghylch Tom:

Mae Tom wedi graddio o Brifysgol Bangor yn ddiweddar, lle astudiodd am ei radd gyntaf gyda gradd meistr integredig mewn Daearyddiaeth. Mae’n arddwr brwd ac mae'n treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn mwynhau'r awyr agored, er ei bod yn gas ganddo aeron a chathod. Mae hefyd yn hoff o fwyd fegan wrth wylio Netflix i osgoi’r hysbysebion felltith ar y teledu.

Tom, pam wnest ti ymuno â'r tîm yma yn UMAber?

Wrth i mi nesáu at ddiwedd fy ngradd a dechrau chwilio am waith, roeddwn i'n benderfynol o gynnwys Aber fel un opsiwn. Er i mi astudio ym Mangor, pan oeddwn i’n tyfu i fyny, roeddwn i’n arfer ymweld ag Aber yn aml, ac roeddwn i eisiau rhoi cynnig arni! Gwnaeth yr amrywiaeth o gymdeithasau yn yr Undeb gryn argraff arnaf, ac roeddwn i’n gobeithio bod gen i’r sgiliau a'r angerdd angenrheidiol i'w helpu i lwyddo - a dyma ni!

Wyt ti wedi cael llawer o gysylltiad â Chymdeithasau Myfyrwyr o'r blaen?

Do - ymunais ag un neu ddwy o gymdeithasau yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol a bu gen i ambell swydd ar bwyllgorau. Fel Cadeirydd Grwp Gweithredu Myfyrwyr dros Treborth (STAG), helpais i gydlynu cadwraeth a chynlluniau cynnal a chadw ar gyfer Gerddi Botaneg Treborth, yn ogystal â darparu addysg drwy gynnal gweithdai a thywys pobl o amgylch y lle. Roeddwn hefyd yn Drysorydd y Gymdeithas Arddio, lle buom yn helpu myfyrwyr i wella eu sgiliau garddwriaethol.

Beth wyt ti’n gobeithio ei gyflawni yn ystod dy fisoedd cyntaf?

Er bod pethau braidd yn dawel dros yr haf, rwy'n edrych ymlaen at ddod i adnabod y Swyddogion a Phwyllgorau’r Cymdeithasau, ynghyd â chwrdd â rhai o fyfyrwyr Aber! Rwy'n gobeithio dysgu llawer a gweld sut mae pethau'n gweithio yma, yn bwysicaf oll drwy wrando ar adborth myfyrwyr.

Mae'n rhaid i ni ofyn - pwy fyddi di’n ei gefnogi yn y Rhyngolgampau nesaf?

Ahh! Wel, byddaf yn cefnogi Aber… efallai y byddwn yn ennill eleni!

Unrhyw beth arall i'w ychwanegu?

Dewch i ddweud helo neu anfonwch e-bost ataf os oes angen unrhyw beth arnoch - rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chi i gyd!

Gallwch ddod o hyd i Tom yn y Swyddfa Cyfleoedd yn yr UM neu gysylltu ag e drwy e-bostio thm35@aber.ac.uk. Pob lwc gan bawb!

Comments