Mae dod o hyd i le ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn gallu codi ofn ac mae llawer eisiau ei wneud cyn gynted â phosib. Ond paid â phoeni, pwyll biau hi, mae gennyt ti ddigon o amser. Mae asiantaethau tai yn pwyso ar bobl i rentu tai yn gynnar y flwyddyn gan ddweud nad fydd dim ar ôl – nid yw hyn yn wir. Mae bob tro yn syniad gwell i fynd gyda phwyll, ystyried y bobl iawn rwyt ti eisiau byw gyda nhw a dod o hyd i rywle lle byddi di’n hapus. Cofia dy fod di’n mynd i fyw yno am flwyddyn o leiaf. Mae eisiau i ti wneud yn siwr y bydd yn gartref diogel a chynnes i ti tra byddi di’n astudio.
Darllen y cytundeb tenantiaeth
Mae darllen y cytundeb tenantiaeth yn hollbwysig oherwydd ei fod yn gytundeb cyfreithiol rhyngddot ti a dy landlord. Mae’n codi ofn ond mae yna er dy les di cymaint ag er lles y landlord. Dylai gynnwys cyfrifoldebau’r landlord fel dy fod yn gallu eu dwyn i gyfrif os ydynt yn cefnu ar rywbeth.
Os wyt ti’n ansicr am rannau penodol o’r cytundeb, paid â’i arwyddo. Gofynna un ai i riant neu i ofalwr/gwarchodwr rwyt ti’n ymddiried ynddynt ei ddarllen neu ddod ag ef i gynghorydd undeb y myfyrwyr a byddant yn gallu rhoi cymorth tra yn darllen trwyddo. Paid byth an theimlo dan bwysau i arwyddo’r cytundeb os nad wyt ti’n gyfforddus i’w wneud. Does dim seibiant ar ôl i ti arwyddo. Os ydy’r asiantaeth eiddo neu’r landlord yn rhoi llawer o bwysau arnat ti i arwyddo’r cytundeb hyd yn oed pan nad wyt ti’n barod, mae’n debyg nad yr asiantaeth iawn i ti ydynt.
Dewis pobl i rannu ty gyda nhw.
Mae rhaid i ti wneud yn siwr bod y bobl byddi di’n byw nhw yn iawn i ti. Fy nghyngor innau – dyw’r ffaith eu bod yn ffrind ddim yn golygu y bydd yn haws byw gyda nhw. Gwna yn siwr eich bod yn cyd-weld â phethau yn gyntaf. Eistedda gyda nhw ac yna mynd trwy ffiniau a phethau derbyniol ac annerbyniol yn nhermau safon byw. Os na fyddwch yn cyd-weld ar bethau, efallai na fydd byw gyda nhw y peth iawn.
Pryd i ddechrau chwilio
Does dim amser gorau i fwrw ati a chwilio ond ni fuaswn i’n awgrymu i ti arwyddo dim byd yn rhy gynnar yn y flwyddyn. Mae Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn cynnal ffair tai ar 6ed o fis Rhagfyr, ac rydyn ni’n argymell hwn fel yr amser cynharaf i ddechrau chwilio fel ei bod yn rhoi digon o amser i ti ddod i nabod dy ffrindiau yn well a digon o gyfle i ddod o hyd i rywle addas.
Rent Smart Wales
- Dylet ti bob wneud yn siwr a ydy’r asiantaeth/landlord wedi cael trwydded gan Rent Smart Wales. Mae hwn yn gynllun gofrestru hanfodol fel rhan o’r Ddeddf Dai (Cymru) a gyflwynwyd yn 2016 ac mae’n rhaid i bob eiddo yng Nghymru gael ei gofrestru gyda Rent Smart.
- Un o amodau o drwydded y landlord/asiantaeth yw eu bod yn cadw at Reolau Arfer Rent Smart Wales sy’n gorfodi i landlordiaid ac asiantaethau i:
- Ddarparu gwybodaeth gywir heb ei ffugio
- Dogfennu pob ffi sy’n gysylltiedig gyda’r tenantiaeth.
- Amddiffyn dy flaendal gyda chynllun amddiffyn sy’n cael ei ganiatáu o fewn 30 niwrnod o’i gael.
- Darparu Tystysgrif Ddiogelwch Nwy a Thystysgrif Berfformiad Trydanol.
- Rhoi gwybod i’r darparydd dwr lleol am denantiaeth newydd o fewn 21 o ddiwrnodau.
- Darparu enw a chyfeiriad y landlord o fewn 21 o gyflwyno cais.
- Sicrhau bod yr eiddo yn aros yn addas i bobl fyw ynddo.
- Cadw systemau gwres a dwr poeth mewn cyflwr gweithio addas.
- Parchu hawl y tenant(iaid) i feddiannu’r eiddo yn heddychlon.
- Rhoi rhybudd 24 awr o flaen llaw cyn mynd i’r eiddo oni bai fod argyfwng. Os gwrthodir y cais i ddefnyddio’r eiddo, mae rhaid iddynt gael gorchymyn oddi wrth lys cyn i landlord neu asiantaeth fynd i mewn i’r eiddo.
Gellir darllen y Cod Arfer llawn trwy fynd i: https://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/home/
Gelli di weld a ydy dy eiddo wedi’i gofrestru neu a ydy dy landlord neu dy asiantaeth wedi cael trwydded trwy fynd i: https://www.rhentudoeth.llyw.cymru/cym/check-register/
Beth i chwilio amdano yn ystod ymweliadau
- Pan yn mynd o gwmpas eiddo, mae’n werth gwneud rhestr o bethau i ofyn neu i gadw golwg amdanynt, un ai yn fewnol neu ddod gyda dy restr dy hun. Isod mae syniadau da am ymweliadau:
- Gwna yn siwr bod dy gyd-letywyr a thi yn ymweld â’r eiddo os ydych chi’n bwriadu byw mewn ty gyda’ch gilydd. Paid â chymryd gair rhywun arall yn ganiataol bod yr eiddo yn iawn i ti.
- Paid â mynd am y lle cyntaf rwyt ti’n gweld – hyd yn oed os mae’n teimlo fel lle da, mae’n werth cymharu ystod o ddarparwyr ac eiddo.
- Pan fyddi di’n ymweld ag eiddo, mae’n werth cymryd nodiadau a thynnu lluniau i ti eu cymharu nes ymlaen.
- Cer i ddeall dy hawliau a dy gyfrifoldebau oherwydd mae eu deall yn dy roi di mewn lle cryfach pan yn trafod tenantiaeth neu unrhyw broblemau.
- Gwirio a oes risgiau llifogydd ar bwys yr eiddo rwyt ti’n ystyried ei rentu https://naturalresources.wales/flooding?lang=cy.
- Cadwa olwg am arwyddion bod plâu yn yr eiddo. Boed yn faw neu farciau gwlithen ar y waliau.
Cyngor Staff Undeb y Myfyrwyr
- Os gelli di, ymweld â’r ty sydd orau, dyw lluniau a fideos ddim yn rhoi darlun cyflawn!
- Does y ffasiwn beth â chwestiynau ffôl.
- Paid ag ofni rhag dweud na i eiddo.
- Cer i gael syniad o’r ardal. Os wyt ti gyda rhywun sydd eisiau lleoliad tawel, paid â byw drws i neu ar bwys i dafarn fywiog.
- Pan yn symud i mewn, tynna luniau o bopeth cyn i ti symud dy bethau i mewn. Os oes difrod pan rwyt ti’n symud i mewn, mae siawns byddant yn trio codi ffi arnat ti pan fyddi di’n gadael felly gwna yn siwr bod modd i ti brofi nad fi oedd.
- Gwiria’r sgôr ynni’r eiddo a gweld pa mor effeithlon yw’r eiddo. Cofia mai band E yw’r lleiafswm.
- Mae’n werth siarad gyda’r tenantiaid un-i-un i gael syniad gwell o’r eiddo.
- Paid â theimlo embaras i aros mewn llety prifysgol.
|