Taflu goleuni ar Fyfyrwyr sy’n Gwirfoddoli - Dydd Olaf!

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Mae ein pumed erthygl o'r wythnos, a’r olaf, yn ymwneud â Pippa. Mae gan Pippa nifer o rolau gwirfoddoli yn UMAber ac mae'n aml yn mynychu ein diwrnodau gweithredu untro, gan gynnwys rhai yn ystod Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr!  

Pa rolau Gwirfoddoli sydd gen ti?

Ar hyn o bryd rydw i'n Gynrychiolydd Academaidd ar gyfer Hanes, rwyf hefyd yn Wirfoddolwr Cyngor Ariannol ac yn Fyfyriwr Adolygydd.

Yn y gorffennol rwyf wedi gwirfoddoli yn yr ystafell ddosbarth mewn ysgol gynradd i helpu gyda darllen a chymorth ychwanegol. Rwyf hefyd wedi helpu gydag amryw o ddigwyddiadau yn fy mhentref, a gyda gwahanol weithgareddau a grwpiau lleol fel rhan o fudiad y Geidiaid.

Pam wyt ti’n gwirfoddoli? 
Rwy'n gwirfoddoli oherwydd y ffordd y cefais i fy magu, am wn i, hyd yn oed os ydy hynny’n swnio braidd yn rhyfedd. Mae fy Mam yn gweithio llawn-amser fel athrawes; magodd dair merch, ac roedd hi’n dal i dreulio amser fel arweinydd y grwpiau Sgowtiaid a Geidiaid lleol pan oeddwn i'n tyfu i fyny. Rwyf hefyd yn cofio bod yn rhan o lawer o ddigwyddiadau yn yr eglwys/pentref - mae Mam wedi aberthu cryn lawer i geisio bod yno mor aml ag y mae pobl yn gofyn iddi fod. Mae'n gwneud synnwyr yn ein teulu ni (rwy'n gwybod bod fy chwiorydd yr un fath, ac etifeddodd Mam hyn gan ei rhieni hithau) i roi ychydig o'n hamser i helpu pobl eraill. 

Beth yw’r profiad gorau wyt ti wedi’i gael fel gwirfoddolwr?
Pan ddechreuais i'r ysgol uwchradd, roeddem yn cael prynhawniau Gwener yn rhydd bob wythnos. Yn hytrach na threulio’r oriau ychwanegol gartref, dechreuais fynd yn ôl i fy ysgol gynradd i helpu yn un o'r dosbarthiadau. Roeddwn i wastad wedi ystyried bod yn athrawes, ac roedd gallu gweld y cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn ysgol bob amser yn hynod o galonogol.

Sut wyt ti wedi elwa fel gwirfoddolwr?
Mae gwirfoddoli wedi dysgu i mi fod yn fwy amyneddgar gyda phobl, cyfathrebu'n well, ac mae wedi fy helpu i ddatblygu nodweddion arweinyddiaeth. Nid wyf wir yn meddwl y byddai’r rhain gen i pe bawn i heb wirfoddoli. Mae hefyd bob amser yn deimlad da gwybod eich bod chi'n gwneud rhywbeth i helpu rhywun arall, hyd yn oed os mai dim ond rhywbeth bach ydyw.

Comments