Taflu goleuni ar Fyfyrwyr sy’n Gwirfoddoli - Dydd 4

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Mae pedwaredd Erthygl yr Wythnos yn ymwneud â Mentoriaid Cyfoedion Adrannol. Mae dros 100 o fentoriaid yn gwirfoddoli eu hamser i roi cymorth i fyfyrwyr yn eu hadran eu hunain ar draws y brifysgol. Gallwch ganfod mwy am yr hyn y mae mentoriaid cyfoedion yn ei wneud a sut mae mentoriaid a myfyrwyr yn elwa ar y rôl hon.

Beth yw rôl mentoriaid cyfoedion adrannol?
Mae Mentoriaid Cyfoedion Adrannol yma i helpu myfyrwyr newydd ar eu blwyddyn gyntaf, yn enwedig ar ddechrau'r tymor pan fo popeth yn Aberystwyth yn newydd ac yn anghyfarwydd. Gall Mentoriaid Cyfoedion helpu myfyrwyr newydd i setlo i mewn yn gyflym a chanfod eu ffordd o gwmpas yr Adran a'r Brifysgol. Gall Mentoriaid Cyfoedion hefyd helpu gydag agweddau eraill ar fywyd y Brifysgol, gan gynnwys y drefn academaidd a rheoli amser. P'un ai ydych chi'n cwrdd â'ch Mentor Cyfoedion unwaith yn unig neu’n fwy rheolaidd, mae'n galonogol gwybod bod yna gyd-fyfyriwr bob amser yn barod i siarad â chi yn gyfrinachol os oes angen help arnoch chi.


Pam mae myfyrwyr yn dewis gwirfoddoli fel mentor adrannol?

Dyma beth sydd gan ein mentoriaid cyfoedion i'w ddweud ...

Zoe Turner - Roeddwn i'n gwybod pa mor heriol oedd y brifysgol yn teimlo ar y dechrau, a sut y llwyddodd cyngor gan fyfyrwyr hyn y gallwch chi uniaethu â nhw i fy helpu yn y flwyddyn gyntaf, ac felly roeddwn am dalu’r gymwynas yn ôl. Rwy'n teimlo fy mod i'n dal i ddysgu mwy bob dydd hefyd, a gallaf hyd yn oed ddysgu o’r myfyrwyr sydd ar eu blwyddyn gyntaf; mae pawb ar eu hennill felly!

Ffion Cudlip - Dewisais i fod yn fentor er mwyn helpu pobl i ymgartrefu yn y Brifysgol, a’u helpu nhw i sylweddoli bod rhywun yma bob amser i'w helpu os ydynt yn cael anawsterau.

Josh Dinsmore - Rwy'n dewis gwirfoddoli fel mentor adrannol, oherwydd i mi ei chael yn anodd yn ystod y flwyddyn gyntaf. Roeddwn yn awyddus i sicrhau nad oedd yn rhaid i fyfyrwyr eraill gael yr un profiad â’r un a gefais i, heb unrhyw gefnogaeth. Gan fod y fath naid o'r ysgol i'r brifysgol o ran ansawdd traethodau ac astudiaeth annibynnol, roeddwn i eisiau gallu trosglwyddo unrhyw ddulliau yr oeddwn wedi'u darganfod wrth ymdopi ag addasu i astudiaeth yn y Brifysgol, yn y gobaith y gallai hynny helpu myfyrwyr i setlo yn eu hastudiaethau'n well.

 

Ym mha ffordd mae myfyrwyr wedi elwa o wirfoddoli fel mentoriaid adrannol?

Fredrik Matre - Fel mentor cyfoedion adrannol, rwyf wedi gallu gwella fy sgiliau cyfathrebu a fy medrau datrys problemau yn sylweddol. Mae'r brifysgol wedi rhoi cymorth a hyfforddiant rhagorol i mi, ac rwyf wedi gallu addasu llawer o wahanol agweddau o fy ngyrfaoedd personol ac academaidd.

Aaron James Bollingham - Y fantais fwyaf dwi wedi’i chael o fod yn fentor cyfoedion yw'r ymdeimlad fy mod i wedi gwneud tymor cyntaf rhywun ychydig yn haws, drwy ddweud wrthyn nhw ble i fynd neu helpu gyda chyfeirnodi. 

Josh Dinsmore - Mae gwirfoddoli fel mentor adrannol wedi bod yn brofiad gwerth chweil, gan fy mod wedi gallu helpu myfyrwyr i setlo ym mywyd y Brifysgol a gweld sut y gallant ddefnyddio unrhyw wybodaeth rwy'n ei throsglwyddo iddynt i'w helpu. Yr wyf yn falch o fod wedi bod o gymorth i fyfyrwyr IBERS oedd am leisio unrhyw bryderon oedd ganddyn nhw. Mae bod yn fentor adrannol hefyd wedi caniatáu i mi ryngweithio â myfyrwyr o amryw o wahanol ddiwylliannau; teimlaf fod hyn yn rhan bwysig o fywyd y Brifysgol.

Comments