Taflu goleuni ar Fyfyrwyr sy’n Gwirfoddoli - Dydd 2

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Mae ein hail erthygl o'r wythnos yn ymwneud â’n Cynrychiolwyr Academaidd! Mae gennym dros 200 o gynrychiolwyr ar draws pob un o’r 17 adran; etholwyd y rhain i’w rôl ym mis Hydref. Dylech fod yn gwybod eisoes pwy yw eich cynrychiolydd, ond os nad ydych, gallwch chi eu canfod a chysylltu â nhw drwy fynd i  Darganfod eich Cynrychiolydd! 

Beth yw rôl Cynrychiolydd Academaidd?
Mae Cynrychiolwyr Academaidd yn fyfyrwyr ar eich cwrs sy'n cael eu hethol i fod yn bwynt cyswllt allweddol os oes gennych chi unrhyw adborth am eich astudiaethau academaidd a’ch profiad yn y Brifysgol.

Eu rôl yw rhannu eich adborth ac unrhyw faterion neu syniadau sydd gennych chi gyda staff o'ch adran neu Undeb y Myfyrwyr er mwyn helpu creu newid a gwella ansawdd eich addysg. Gall y newidiadau y maent yn helpu i’w gwneud fod yn fawr neu'n fach, ond maent bob amser yn ceisio gwneud newidiadau er gwell, gan eu bod yn gwybod beth yw’r materion sy'n effeithio ar fyfyrwyr.

Pam bod myfyrwyr wedi dewis bod yn Gynrychiolwyr Academaidd?
Dyma beth sydd gan ein Cynrychiolwyr Academaidd cyfredol i’w ddweud ...

Lucy Platten - Dewisais i fod yn Gynrychiolydd Academaidd oherwydd roeddwn i eisiau bod y gorau y gallwn i fod yn y brifysgol a chymryd pob cam i ddatblygu fy ngyrfa ymhellach ar ôl hynny. Roeddwn i'n teimlo bod y cyfle i fod yn gynrychiolydd yn addas i mi ar gyfer fy nyfodol.

Charlie Pugh - Penderfynais fod yn gynrychiolydd academaidd i gynrychioli fy marn fy hun a barn fy nghyfoedion, er mwyn ceisio sicrhau'r addysg orau bosib.

Ffion Taylor - Dewisais i fod yn gynrychiolydd myfyriwr oherwydd yr oeddwn am allu siarad â'm cyd-fyfyrwyr a helpu i ddatrys unrhyw faterion roeddent yn eu hwynebu. Roeddwn hefyd am feithrin mwy o hyder gan fy mod yn gwybod y byddai'n rhaid i mi siarad â nifer o bobl a siarad â thiwtoriaid, ac y byddai hyn yn fy helpu i fagu mwy o hyder.

 

Beth mae Cynrychiolwyr Academaidd wedi ei Newid?

Mae Cynrychiolwyr Academaidd yn mynychu Pwyllgorau Ymgynghorol Staff Myfyrwyr 3 gwaith y flwyddyn, sef eu cyfle i godi adborth, materion neu syniadau gyda staff. Mae amserlennu, terfynau amser aseiniadau a recordiadau panapto i gyd yn faterion a godwyd ac aethpwyd i’r afael â nhw eleni gan eich cynrychiolwyr. Dylech fod yn gwybod eisoes beth mae eich cynrychiolwyr wedi'i gyflawni hyd yn hyn, ond os nad ydych, gwnewch yn siwr o ofyn i'ch cynrychiolydd er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni.

Eleni mae C22 wedi bod ar agenda llawer o gynrychiolwyr. O ganlyniad i hyn gael ei godi ar draws adrannau, mae ein Swyddog Materion Academaidd bellach wedi cael sgyrsiau gydag uwch staff i gael y ddarlithfa hon wedi’i hadnewyddu o’r diwedd!

 

Ym mha ffordd mae ein cynrychiolwyr wedi elwa o Wirfoddoli fel Cynrychiolwyr Academaidd?

Lucy Platten - Y fantais fwyaf dwi wedi’i chael o fod yn Gynrychiolydd Academaidd yw'r hwb ychwanegol i gwrdd â phobl newydd a dysgu oddi wrth y myfyrwyr o'm cwmpas, yn y dosbarth a thu allan.

Charlie Pugh - Rwyf wedi magu llawer mwy o hyder ers i mi fod yn gynrychiolydd academaidd. Rwyf hefyd wedi bod mewn cysylltiad â nifer o aelodau staff a chyfoedion na fyddwn, yn fwy na thebyg, wedi siarad â nhw fel arall.

Ffion Taylor - Rydw i wedi elwa cryn lawer o fod yn gynrychiolydd myfyrwyr hyd yn hyn, mae fy hyder wedi cynyddu ac rwy'n teimlo'n llawer mwy cyfforddus i siarad â phobl. Rwyf hefyd wedi gallu cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd yn sgil bod yn gynrychiolydd myfyriwr, p'un ai oedden nhw’n gynrychiolwyr myfyrwyr eraill neu fy nghyd-fyfyrwyr ar y cwrs.

Comments