Taflu goleuni ar Fyfyrwyr sy’n Gwirfoddoli - Dydd 1

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Mae ein herthygl gyntaf o'r wythnos yn ymwneud ag Oliver Earle. Oliver yw'r cyntaf o ddau fyfyriwr i ennill ein Gwobr Aur Aber mewn cydnabyddiaeth o’i wirfoddoli! Dim ond ers mis Medi, mae wedi cofnodi dros 120 awr o wirfoddoli ac nid yw'n anodd gweld pam!

Pa rolau Gwirfoddoli sydd gen ti?
- Gwirfoddolwr Gwrando a Hyfforddwr ar gyfer Llinell-gymorth y Nos Aber
- Swyddog Lles Cymdeithas Almaeneg Aberystwyth
- Ymgeisydd UCM Cenedlaethol a Chymru
- Gwirfoddolwr Tîm A
- Ar hyn o bryd yn derbyn hyfforddiant Cymorth Cyntaf Sylfaenol gydag Urdd Sant Ioan Cymru
Y tu allan i'r Brifysgol:
- Arbenigwr Cymorth TG ar gyfer Cymdeithas Llinell-Gymorth y Nos
- Gwefeistr ar gyfer Hostelling International UDA

Pam wyt ti’n gwirfoddoli?
A bod yn onest, fe ddechreuais i wirfoddoli er mwyn gwella fy nghyflogadwyedd a datblygu sgiliau newydd a rhai oedd gen i eisoes. Gan fy mod i wedi astudio Cyfrifiadureg ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, dwi'n gwybod ei fod yn ddiwydiant cystadleuol iawn, felly roeddwn i'n awyddus i gymryd rhan mewn cymaint o bethau â phosib er mwyn sefyll allan o'r dorf. Roeddwn hefyd eisiau cael cyfoeth o brofiadau na fyddai gan ymgeiswyr eraill o bosib.

Drwy wirfoddoli, dechreuais fagu ymrwymiad i Linell-gymorth y Nos, a holl elfennau mudiad lles myfyrwyr. Cynyddodd fy nghyfranogiad oherwydd fy mod yn cael cymaint o fwynhad o’r ffaith fy mod i'n gallu helpu cymuned y myfyrwyr, ac yn gallu cymryd rhan yng nghymuned y Llinell-gymorth yn ehangach, yn Aber, ar draws y DU ac Iwerddon, sy'n wirioneddol wych.

Beth yw’r profiad gorau wyt ti wedi’i gael fel gwirfoddolwr?
Fel un o dîm y Llinell-gymorth, rwyf wedi cael y cyfle i estyn allan a gwneud gwahaniaeth i rywun oedd wir angen rhywun i wrando arnynt a chynnig cefnogaeth iddynt. Mae yna lawer o adegau cofiadwy lle rwyf wedi teimlo, er nad oedd yn bosib i mi ddileu baich rhywun arall, rwyf wedi gallu eu helpu i’w gario, o leiaf am ychydig. Y tu allan i hynny, roeddwn wrth fy modd yn casglu a chroesawu Myfyrwyr Rhyngwladol fel aelod o’r Tîm-A ar y teithiau Cyfarfod a Chyfarch i Faes Awyr Birmingham yn y blynyddoedd blaenorol - roedd hynny'n llawer o hwyl!

Sut wyt ti wedi elwa fel gwirfoddolwr?
Rwyf wedi elwa'n bersonol yn sgil yr holl brofiadau dwi wedi eu datblygu o ganlyniad i sawl blwyddyn o wirfoddoli, ac yn sicr, mae’n rhoi llawer i mi siarad amdano gyda darpar gyflogwyr. Mae wedi fy helpu i wella'r sgiliau sydd eu hangen yn uniongyrchol ar gyfer fy rôl wirfoddoli, ond mae hefyd wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol a meddal sy'n hynod bwysig heddiw. Heb sôn am y cyfleoedd rhwydweithio sydd wedi bod yn hynod o ddefnyddiol wrth gynllunio fy ngyrfa. Mae'n swnio ychydig yn ystrydebol efallai, ond rydych chi wir yn cael llawer allan o’r profiad.
 

Comments