THIS GIRL CAN - Dydd Olaf!

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Ein Blog Wythnos THIS GIRL CAN olaf gan Sam Lumb! 

 1.   Dywedwch wrthym ychydig amdanoch chi'ch hun, gan gynnwys eich gyrfa a'ch hobïau...

Ar ôl rhoi cynnig ar sawl gyrfa, penderfynais fod yn filwr ym Myddin Prydain. Ar ôl pum mlynedd, dwi’n mwynhau'r amrywiaeth, yr heriau a'r cyfleoedd sydd ar gael i mi. Dwi’n cael cyfle i deithio'r byd a gweithio i gyflawni rhywbeth sy'n rhoi cryn foddhad i mi. Peidiwch â fy nghamddeall, mae yna ddyddiau fel mewn unrhyw swydd pan fyddwch chi'n meddwl, 'roedd hwn yn ddewis gwael', fel arfer pan fyddwch yn oer ac yn wlyb yn ystod ymarferiadau am 3 o’r gloch y bore, ond fel arfer mae'r profiadau da yn gwneud iawn am y rhai gwael. Gan fy mod i wastad wedi bod yn un sy’n hoffi bod yn rhan o dîm, mae'r Fyddin yn rhoi'r cyfle i mi ddefnyddio’r angerdd yma i weithio fel rhan o dîm ym mhob math o sefyllfaoedd - yn y DU, ar wasanaeth dramor, ymarferion aml-genedlaethol neu gymryd rhan mewn chwaraeon a chynrychioli'r fyddin ar y maes chwarae. Mae fy mhrif hobïau’r un fath ag yr oeddent pan oeddwn i yn Aberystwyth, sef pêl-droed a Rygbi. Rwy'n chwarae ar sawl lefel, ac yn ddiweddar cefais fy newis ar gyfer prif garfan rygbi menywod y Fyddin. Dyma un o fy amcanion rygbi ers i mi ymuno â'r Fyddin, ac mae’n agor y drysau i chwarae yn erbyn timau fel yr Alban, Lloegr, yr Almaen, Sbaen, heb anghofio'r Awyrlu a’r Llynges.  

2.       Ydych chi wedi wynebu unrhyw heriau neu rwystrau yn sgil bod yn ddynes wrth ddilyn eich diddordebau neu eich gyrfa? 

Mae hwn yn gwestiwn diddorol. Rydw i'n gweithio mewn amgylchedd sydd wedi’i ddominyddu gan ddynion, yn fwy na’r rhan fwyaf o swyddi, mae’n debyg. Fel gydag unrhyw swydd, yr her yw profi eich hun bob amser. Eich bod chi'n gallu gwneud y swydd. Eich bod chi'n rhywun sy'n gallu ychwanegu gwerth at y tîm. Rwy'n gweithio mewn tîm lle byddaf yn defnyddio fy ymennydd i bennu fy ngallu yn hytrach na pha mor gyflym y gallaf redeg (er fy mod yn dal i orfod pasio'r holl brofion ffitrwydd). Yn fy marn i, mae'r Fyddin yn seiliedig ar y gred bod menywod yn ychwanegu gwerth at y fyddin ymhell y tu hwnt i'w gwahaniaeth rhywedd. Rwy'n credu mai'r her fwyaf yw cael lifrai sy'n ffitio’n gywir!     

3.     Oes yna ddynes benodol sy'n eich ysbrydoli neu sydd wedi dylanwadu ar eich bywyd? 

Mae'r cwestiwn hwn bob amser yn ennyn barn gymysg ar sail fy newis, ond mae'n rhaid i mi ddweud, Maggie Thatcher oedd y ddynes a wnaeth yr argraff fwyaf arnaf i. Roedd hi'n Brif Weinidog cyn fy amser i ac rwy'n gwybod bod llawer o'r hyn a wnaeth o ran polisi’n ddadleuol, ond fe dorrodd y nenfwd wydr. Pan fyddwch chi'n edrych yn ofalus ar ei bywyd, sut y bu iddi esblygu fel person mewn byd oedd yn cael ei ddominyddu gan ddynion, roedd hi'n wirioneddol ymroddedig. Roedd hi'n glyfar, yn alluog, yn ddadleuol ac yn gryf. Roedd hi’n bopeth yr oeddwn i eisiau bod. Rwy'n dal i ystyried fy ymgyrchoedd etholiadol yn y dyfodol ar gyfer swydd Prif Weinidog ...

4.     Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth fenywod eraill sy'n ystyried (gyrfa/diddordebau a nodwyd) ond sy’n ansicr a fyddai hynny’n iawn iddyn nhw? 

Rhowch gynnig ar beth bynnag yr ydych am ei wneud. Bydd rhwystrau bob amser, ond mae'n rhaid i chi wthio tu allan i'ch ardal gysur i weld a yw'r rhwystrau hyn yn bodoli ble rydych chi. Mae’n fwy na thebyg y bydd rhywun sy’n gweithio gyda chi wedi cael yr un profiadau, a phan fydd y rhain yn cael eu rhannu, maent yn caniatáu i ddealltwriaeth ddatblygu. Byddwch yn gryf a pheidiwch â gadael i unrhyw un ddweud wrthych na allwch chi wneud rhywbeth. Addysgwch eich hun hyd eithaf eich gallu fel eich bod yn barod ar gyfer popeth a all ddigwydd, ac na all unrhyw un gyfeirio atoch fel ‘merch fach wirion' neu bethau tebyg eraill. Gwthiwch eich ffiniau eich hun. Dim ond chi sy’n dweud wrthych na allwch chi gyflawni rhywbeth. Mae profiadau newydd yn aml yn anghyfforddus, ond 9 gwaith allan o 10, maent yn ein gwneud yn well yn eu sgil.

Comments