THIS GIRL CAN - Dydd 2

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Blogs Wythnos THIS GIRL CAN, nesaf yw Charlotte! 

  1. Dywedwch wrthym ychydig amdanoch chi'ch hun, gan gynnwys eich cyfranogiad â Chymdeithasau yn y brifysgol ...

Hyn o bryd rwy'n fyfyriwr ar fy 3edd flwyddyn yn astudio Astroffiseg, a byddaf  yn gwneud traethawd hir arbenigol yn dwyn y teitl Perturbation of Cometary Orbits by Planetary Objects , a fydd yn golygu codio a defnyddio meddalwedd.

Ymunais â'r Gymdeithas Roboteg tua diwedd 2016, lle'r oeddwn i'n helpu Plant o ysgolion lleol i adeiladu pa bynnag brosiect roeddwn nhw wedi’i ddewis. Yn 2017, deuthum yn Ysgrifennydd y Cymdeithasau, gan wneud yn siwr bod unrhyw wybodaeth yn cael ei chofnodi a bod unrhyw beth a oedd angen ei wneud yn cael ei wneud. Yna eleni deuthum yn Llywydd, lle trefnais stondin yn Ffair y Glas, a dwi wedi bod yn ceisio helpu hyd eithaf fy ngallu yn y sesiynau pan oedd angen hynny. Rwyf hefyd wedi helpu yn ystod yr Wythnosau Gwyddoniaeth, sydd wedi digwydd yn y gorffennol.

 

  1. Ydych chi wedi wynebu unrhyw heriau neu rwystrau yn sgil  bod yn ddynes wrth ddilyn eich diddordeb mewn roboteg?

Dydw i ddim wedi wynebu unrhyw heriau penodol wrth ddilyn fy niddordeb mewn Roboteg; mae pawb wedi bod yn barod iawn i helpu, a phan fyddaf yn cael y cyfle i helpu rwyf y gwneud fy ngorau, ond nid yw fy ngwybodaeth mor eang â llawer o'r menywod sy'n helpu'r plant i ddysgu Roboteg, e.e. Patricia Shaw neu Hannah Dee.

 

  1. Oes yna ddynes benodol sy'n eich ysbrydoli neu sydd wedi dylanwadu ar eich bywyd?

Rwy'n credu mai Mam, fy chwaer a fy nwy fam-gu sydd wedi dylanwadu arnaf fwyaf; maen nhw bob amser wedi bod yn gefnogol i mi ac yn credu ynof fi. Roedden nhw wastad yn rhoi cyngor defnyddiol i mi a dangos i mi, cyn belled â fy mod i’n penderfynu gwneud rhywbeth a gwneud fy ngorau, does dim byd arall yn bwysig.

 

  1. Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth fenywod eraill sy'n ystyried cymryd rhan neu sydd â diddordeb yn y Gymdeithas Roboteg, ond sy’n ansicr a fyddai hynny’n iawn iddyn nhw?

Byddwn yn dweud, rhowch gynnig arni neu fyddwch chi byth yn gwybod os ydych chi'n ei hoffi neu os ydych chi'n gallu gwneud hyn yn dda. Mae gan bawb eu cryfderau, boed mewn meddalwedd neu galedwedd, dylunio neu greu. Does dim i’w golli mewn rhoi cynnig arni, a gallai arwain at rywbeth diddorol iawn.

Os ydych chi'n poeni nad ydych chi’n gwybod beth i'w wneud, mae gennym daflenni gwaith defnyddiol a llawer o bobl a fydd yn falch o ddangos i chi beth i wneud nesaf os ydych chi’n mynd i drafferthion. Os ydych chi'n dal yn poeni, gallwn ni ddysgu gyda'n gilydd, gam wrth gam.

Comments