THIS GIRL CAN - Dydd 1

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Blogs Wythnos THIS GIRL CAN, cyntaf i fyny: Sammi!

1.        Dywedwch wrthym ychydig amdanoch chi'ch hun, gan gynnwys eich cyfranogiad mewn Chwaraeon ...

Fy enw i yw Samantha Short ond mae pobl yn fy ngalw i’n Sammi. Dwi wedi bod â diddordeb mewn chwaraeon ers pan oeddwn i’n fach; tyfais i fyny’n chwarae criced fel fy mhrif gamp, yn ogystal â chwarae ychydig o hoci a rownderi. Mae Criced bob amser wedi bod yn bwysig i mi ac yn un o'r pethau yr wyf yn fwyaf angerddol yn eu cylch. Dechreuais i chwarae dros Glwb Criced Pontblyddyn mewn tîm cymysg, yna Gogledd Ddwyrain Cymru a Chymru. Gan i’r teithio fynd ychydig yn ormodol, symudais siroedd i chwarae dros Swydd Gaer yn 14 oed ac fe chwaraeais yno hyd nes roeddwn i'n 17 oed. Unwaith eto, newidiais siroedd i Swydd Amwythig i chwarae dros eu tîm menywod yn 2018. Yn 2017, dechreuais chwarae criced dan do, ac ym mis Medi’r flwyddyn honno cefais y cyfle i gynrychioli Lloegr yn Dubai yng Nghwpan y Byd Dan Do.

2.        Ydych chi wedi wynebu unrhyw heriau neu rwystrau yn sgil bod yn ddynes wrth gymryd rhan yn eich hoff gamp?

Mae bod yn ddynes mewn criced yn galed ar y dechrau; wrth dyfu i fyny gyda bechgyn, roedd sylwadau fel "fe gêst ti dy fowlio allan gan ferch" a "dwyt ti ddim yn gallu gadael i ferch dy fowlio di allan” yn gyffredin iawn. Fu hyn erioed yn her, ond yn hytrach yn ysbrydoliaeth i mi brofi bod y bechgyn hynny a'u rhieni yn anghywir. Roedd y gystadleuaeth i gymryd rhan mewn gemau yn hawdd i mi, fodd bynnag, i ferched eraill yn y gamp, rwy'n gwybod nad oedd mor hawdd iddyn nhw. Cyn gynted ag y dechreuais gael fy nghydnabod yn fy ardal ac wrth chwarae dros fy sir (Swydd Gaer), anaml iawn ydw i wedi wynebu unrhyw heriau yn sgil fy rhywedd.

3.        Oes unrhyw ddynes benodol sy'n eich ysbrydoli neu sydd wedi dylanwadu ar eich bywyd?

Mae unrhyw ddynes sy'n cyflawni'r hyn mae hi am ei wneud ym myd chwaraeon ac yn mwynhau gwneud hynny’n fy ysbrydoli. Does neb o unrhyw un gamp yn benodol yn fy ysbrydoli, ond mae unrhyw un sy'n cystadlu ar y lefel fwyaf cystadleuol yn rhoi ysbrydoliaeth i mi.

4.        Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth fenywod eraill sy'n ystyried cymryd rhan mewn chwaraeon, ond sy’n ansicr a fyddai hynny’n addas iddyn nhw?

Byddwn yn dweud wrthyn nhw i fynd amdani; byddwch ond yn colli cyfle os na wnewch chi. Mae cyfeillion hefyd yn elfen bwysig o chwaraeon, ac mae'n un o'r rhesymau yr wyf wedi dal ati i chwarae criced. Nid yn unig y bydd yn brofiad cymdeithasol braf, ond bydd y manteision corfforol yn cynyddu eich hyder. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dechrau camp newydd, gwnewch hynny, dydy hi byth yn rhy hwyr a fyddwch chi byth yn difaru.

Comments