Swyddog LHDTC+ UMAber yn cael ei hethol i gynrychioli Myfyrwyr Cymru

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Etholwyd Lyra Hawkins, Swyddog LHDTC+ UMAber 2019/20 yn Swyddog LHDT+ Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru.

Etholwyd Lyra Hawkins yn Swyddog LHDT+ UMAber ym mis Mawrth 2019 ar ôl ymgyrch lwyddiannus yn canolbwyntio ar gynnig cymorth i fyfyrwyr Traws, hyrwyddo iechyd meddwl a gweithio gydag UCM ar ryddhad a chydraddoldeb i fyfyrwyr. Yn ddiweddar mynychodd Gynhadledd LHDT+ Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCMC) ac fe'i hetholwyd yn Swyddog LHDT+ UCM Cymru ar 17 Gorffennaf yn dilyn etholiad ar-lein.

Mae Lyra yn ymuno â thîm bach o Swyddogion UCMC sy'n gwirfoddoli eu hamser yn cynrychioli myfyrwyr o gefndiroedd lleiafrifol neu'r rhai a allai wynebu rhwystrau mewn addysg. Mae bod â swyddog cyfredol a myfyriwr Aberystwyth fel rhan o'r tîm hwn yn ein galluogi i weithio ar faterion lleol a chenedlaethol.

Meddai Lyra: “Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda thimau UMAber ac UCMC eleni, yn enwedig gan fod rhai newidiadau mawr yn dod o ran gofal iechyd Traws yng Nghymru. Bydd y cyfle unigryw hwn i weithio ar ymgyrchoedd cenedlaethol yn cael effaith wirioneddol ar fywydau Myfyrwyr LHDT+ yng Nghymru.”

Dros yr ychydig fisoedd nesaf bydd Lyra yn gweithio gyda’r UM ac UCMC ar ei chynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod - gwyliwch y gofod hwn!

Comments