Enw: Kit
Rôl: Cydlynydd y Dderbynfa a Chyllid
Ble mae adref? Ar lan y môr
Dweda ychydig amdanat ti dy hun wrthym:
Dwi’n amlwg yn gwrthod bod yn cliché a dweud nad wy’n gwybod beth i’w ddweud, ond yn anffodus, cliché ar ddwy goes dwi, felly dydw’i ddim yn gwybod mewn gwirionedd.
Dy bryd olaf ar y ddaear...beth sydd ar y fwydlen?
Bara rhyg gyda chaws; ceir hiraeth yn y pethau dibwys
Y tu allan i’r gwaith, beth yw dy hoff ddiddordebau neu hobïau?
Gwnïo, gemau chwarae rôl, a chanu allan o gywair (dwi’n canu mewn cywair pan fydda’ i’n y gwaith)
Beth wyt ti’n ei garu am weithio yn Aberystwyth? / Beth wyt ti’n gobeithio ei wneud yn ystod dy fisoedd cyntaf?
Mae hon yn dref hyfryd sy’n llawn pobl hyfryd ac mae’r UM yn sefydliad hyfryd sydd wir wedi gwneud fy mywyd myfyrwyr yn well, ac mae’n llawn pobl garedig. Felly, fy nod cyntaf yw cyfrannu at y diwylliant ac awyrgylch hyn.
Taset ti yn dy rôl UM... beth fyddet ti’n ei wneud?
Wel, dwi wedi fy addysgu i fod yn ddylunydd theatr felly... debyg mewn theatr
Cyn gweithio yma, wyt ti wedi cymryd rhan yn Undeb y Myfyrwyr neu grwpiau myfyrwyr o’r blaen?
Do! Dwi’n fyfyriwr yma ers tair blynedd ac wedi bod yn rhan o gymdeithasau, Curtain Call yn bennaf
Dweda ffaith ddiddorol amdanat ti dy hun wrthym (rhywbeth y gallai synnu pobl i’w dysgu):
Dwi’n defnyddio ffon, a darn etifeddiaeth a wnaed ym Mirmingham yn y 1930au yw’r ffon fy mod i’n defnyddio bob dydd i gerdded o gwmpas; nid dyna ffaith amdanaf i mewn gwirionedd, ond mae llawer o bobl yn gofyn i fi ble ges i’r ffon, ac mae yn ffaith ddiddorol.
Pam wnest ti ymuno â’r tîm yma yn UMAber?
Yr ymateb jôc bob tro yw ‘oherwydd dwi’n angerddol dros daenlenni’ ond ai jôc go iawn yw hi? Serch hyn, fel y crybwyllwyd uchod, mae wir yn awyrgylch hyfryd, ac dyna rywbeth sydd o bwys i fi.
Oes rhywbeth arall i’w ychwanegu?
Nag oes a dweud y gwir, ond dwi’n edrych ymlaen at bobl yn dod draw!
Croeso i deulu’r UM, Kit!