Sbotolau ar Glybiau a Chymdeithasau Newydd: Clwb Pêl-Law

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Mae ein clwb yn chwarae camp â phêl o'r enw pêl-law. Mae pêl-law yn gyfuniad o bêl-fasged, pêl-droed a phêl-rwyd. Mae'n cael ei chwarae dan-do, gyda saith chwaraewr ar bob tîm. Yr amcan yw sgorio mwy o goliau na'r tîm arall. Rydyn ni'n ymarfer pêl-law dair gwaith yr wythnos; byddwn yn ymarfer ymosod ac amddiffyn, ac rydyn ni hefyd yn chwarae rhai gemau tîm hwyliog. Rydyn ni'n ceisio trefnu gemau cyfeillgar yn erbyn prifysgolion eraill, ac rydyn ni wedi bod yn llwyddiannus hyd yn hyn. Rydyn ni wedi ennill pob gêm rydyn ni wedi'i chwarae hyd yma.

 

Pam aethoch chi ati i sefydlu’r clwb / cymdeithas?

Sefydlwyd y clwb oherwydd nad oedd clwb Pêl-law gweithredol yn Aberystwyth. Roeddem o'r farn y gallai fod yn ddiddorol i'r rhai nad oeddent erioed wedi rhoi cynnig ar bêl-law o'r blaen.


Beth wnaeth eich ysbrydoli i sefydlu’r clwb / cymdeithas? // Beth wnaeth eich ysbrydoli i chi gymryd rhan!

Roeddem yn gwybod bod yna bobl yn Aber a oedd wedi chwarae Pêl-law o'r blaen ac eisiau parhau i chwarae. Roeddem hefyd yn gwybod bod gan rai pobl ddiddordeb mewn rhoi cynnig ar gamp newydd. Ochr yn ochr â hyn, roeddem am roi llwyfan i gamp sydd ddim yn gyffredin yn y DU. O ganlyniad i hyn, fe benderfynom greu clwb newydd!


Beth yw rhai o uchafbwyntiau'r clwb / cymdeithas hyd yn hyn?

Ymysg uchafbwyntiau’r clwb mae’r gemau cyfeillgar rydyn ni wedi bod yn eu chwarae eleni. Rydym yn canolbwyntio ar gael hwyl a bod yn amyneddgar wrth ddysgu'r gêm yn iawn. Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar greu clwb sefydlog y gall llawer o bobl gael budd ohono. Fel y soniwyd, rydym wedi canolbwyntio ar drefnu gemau yn erbyn prifysgolion eraill, fel y gall y chwaraewyr gael y gorau o'u haelodaeth. Rydym hefyd wedi bod yn cynnal gwahanol ddigwyddiadau elusennol ar gyfer mudiadau fel MIND.


Beth sydd gennych chi ar y gweill ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd?

Ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd, rydym yn bwriadu trefnu mwy o gemau a sefydlu tîm dynion. Hefyd trefnu mwy o ddigwyddiadau elusennol ar gyfer gwahanol fudiadau, fel treulio diwrnod yn glanhau’r traeth, a chadw’n sobr am fis.

 

Beth oedd y rhan orau o sefydlu clwb / cymdeithas newydd? // Beth oedd y rhan orau o gymryd rhan yng ngweithgareddau clwb / cymdeithas newydd?

Y peth gorau am sefydlu clwb newydd yw y gallwch chi ei drefnu sut rydych chi am iddo fod, a gwrando ar yr adborth gan y pwyllgor a'r chwaraewyr ar y tîm. Mae gennym hefyd y fantais bod pawb ar yr un lefel, gan fod popeth yn newydd i bawb. Y rhan orau o greu clwb newydd yw gweld bod pobl yn tyfu ymhellach, ac mae'n ymddangos bod pobl yn hapus â'r gwaith rydyn ni'n ei wneud.


Beth yn eich barn chi oedd yr her fwyaf wrth gychwyn clwb / cymdeithas newydd? // Beth yn eich barn chi oedd yr her fwyaf i gymryd rhan yng ngweithgareddau clwb / cymdeithas newydd?

Yr heriau mwyaf sy’n perthyn i sefydlu clwb newydd yw: Dydych chi ddim yn gyfarwydd â sut mae'r system yn gweithio, ac weithiau mae angen i chi weithio pethau allan eich hun neu gael eich ysbrydoli gan gymdeithasau / clybiau eraill. Yr her fwyaf i'r aelodau yw cymryd rhan mewn camp nad ydynt efallai'n gyfarwydd â hi. Gall hefyd fod yn ofn rhoi cynnig ar y gamp ar eich pen eich hun; felly, mae ein pwyllgor am sicrhau bod pob aelod newydd yn teimlo bod croeso iddyn nhw a’u bod eisiau aros.

 

Sut all pobl gadw’n gyfoes â’ch gweithgareddau a chysylltu â chi?

Os ydych chi am gymryd rhan yn ein gweithgareddau, chwiliwch amdanom ar...
Facebook: @Auhandball 
Instagram: @auhandball
E-bost: club184@aber.ac.uk 
Gwefan: Handball Club


A yw hyn wedi eich ysbrydoli i sefydlu clwb / cymdeithas? Ymunwch â ni a dewch yn rhan o Deulu #TîmAber! Does ond angen i chi fod â 10 o aelodau i gychwyn.

Am fwy o wybodaeth, ewch i...
Clybiau Chwaraeon: https://www.umaber.co.uk/timaber/chwaraeon/clwbnewydd
Cymdeithasau: https://www.umaber.co.uk/timaber/cymdeithasau/cymdeithasnewydd/

Comments