Sbotolau ar Glybiau a Chymdeithasau Newydd: Aber Phoenix

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Mae AberPhoenix yn ofod diogel i’r rhai sydd wedi goroeswyr trais rhywiol, aflonyddu a mathau eraill o gam-drin, ond rydym hefyd yn croesawu aelodau sydd ddim wedi cael y profiadau hyn. Rydym yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol, ac rydym yn bwriadu codi arian ar gyfer elusennau sy'n cynnig cymorth i oroeswyr. 

 

Pam aethoch chi ati i sefydlu’r clwb / cymdeithas?

Mae llawer o’r mudiadau sy’n gweithio ar ran goroeswyr yn gweithredu rheolau llym o ran rhywedd neu fanylion y trawma a ddioddefwyd, ac roeddem eisiau gofod lle nad oedd unrhyw un yn cael ei eithrio. Mae'n bwysig i ni fod goroeswyr yn hunan-ddiffinio, ac nad oes rhwystrau i atal unrhyw un sydd am ymuno. 


Beth wnaeth eich ysbrydoli i sefydlu’r clwb / cymdeithas? // Beth wnaeth eich ysbrydoli i chi gymryd rhan!

Fel goroeswyr ein hunain, roeddem yn ei chael yn anodd dod o hyd i gymorth mewn lle mor ynysig ag Aberystwyth. Rydym hefyd yn gwybod pa mor tabw y gall fod i drafod y profiadau hyn, er gwaethaf pa mor gyffredin ydyn nhw. Gyda hyn mewn golwg, fe wnaethon ni greu AberPhoenix i helpu â chyfeirio'r cymorth sydd ar gael a darparu gofod lle gall goroeswyr drafod eu profiadau heb feirniadaeth.


Beth sydd gennych chi ar y gweill ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd?

Ein blaenoriaeth y flwyddyn nesaf fydd dechrau codi arian ar gyfer elusennau sy'n cynnig cymorth i oroeswyr. Mae Not on My Campus UK wedi cysylltu â ni hefyd, a byddant yn ein helpu i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd codi arian ac ymwybyddiaeth ledled y wlad.


Beth oedd y rhan orau o sefydlu clwb / cymdeithas newydd? // Beth oedd y rhan orau o gymryd rhan yng ngweithgareddau clwb / cymdeithas newydd?

Yr agwedd orau o bell ffordd yw gwneud rhywbeth cadarnhaol gyda'n profiadau trawmatig, a chwrdd ag eraill sy'n gwneud yr un peth. Mae wedi bod yn galonogol iawn gweld cymaint o bobl, yn enwedig goroeswyr, sy'n cydnabod pa mor bwysig yw gofod fel AberPhoenix. 


Beth yn eich barn chi oedd yr her fwyaf wrth gychwyn clwb / cymdeithas newydd? // Beth yn eich barn chi oedd yr her fwyaf i gymryd rhan yng ngweithgareddau clwb / cymdeithas newydd?

Yr her fwyaf fu addasu i gadw pellter cymdeithasol; fel pawb arall, rydyn ni wedi gorfod bod yn greadigol er mwyn dal ati i gynnal digwyddiadau cymdeithasol. Doedden ni ond wedi bod yn gweithredu am dair wythnos cyn y cloi mawr, felly mae estyn allan at bobl wedi bod yn anodd.


Sut all pobl gadw’n gyfoes â’ch gweithgareddau a chysylltu â chi?

Os ydych chi am gymryd rhan yn ein gweithgareddau, chwiliwch amdanom ar...
Facebook: @AberPhoenix
Instagram: @aber.phoenix
E-bost: scty263@aber.ac.uk
Gwefan: AberPhoenix


A yw hyn wedi eich ysbrydoli i sefydlu clwb / cymdeithas? Ymunwch â ni a dewch yn rhan o Deulu #TîmAber! Does ond angen i chi fod â 10 o aelodau i gychwyn.

Am fwy o wybodaeth, ewch i...
Clybiau Chwaraeon: https://www.umaber.co.uk/timaber/chwaraeon/clwbnewydd
Cymdeithasau: https://www.umaber.co.uk/timaber/cymdeithasau/cymdeithasnewydd/

Comments