Sbotolau ar Annmarie Evans - Rheolwr Pobl a Llesiant

cyfarfodytimwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

DEWCH I GWRDD Â THÎM YR UM

Dros yr Haf, mae'n bryd i ni fel Undeb Myfyrwyr edrych yn ôl ar y flwyddyn sydd newydd fod, paratoi i groesawu myfyrwyr newydd a chyfredol i Aber ym mis Medi a rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer rhaglen lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer 2020-2021.

Mae misoedd yr haf hefyd yn amser i groesawu a hyfforddi timau swyddogion newydd yn barod ar gyfer y flwyddyn i ddod. Yn cynorthwyo'r tîm swyddogion mae teulu o staff UM sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod myfyrwyr Aberystwyth yn cael cyfle i garu bywyd myfyrwyr a bod yn barod am unrhyw beth.

Rydym yn bwriadu manteisio ar y cyfle dros yr ychydig fisoedd nesaf i gyflwyno teulu UMAber - sydd i gyd yma i chi os ydych chi angen cymorth, cyngor neu sgwrs.


Sbotolau ar Annmarie Evans - Rheolwr Pobl a Llesiant

 

Ble mae dy gartref?

Bow Street

 

Dyweda ychydig wrthym amdanat ti dy hun:

Dwi’n fam i 3 o blant yn eu harddegau hwyr, dwi wrth fy modd yn addurno cacennau, cerdded a mynd am driniaeth mewn sba iechyd

 

Dyma dy bryd bwyd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen?

Conio rhost, heb amheuaeth

 

Y tu allan i'r gwaith, beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden neu hobïau?

Cerdded gyda ffrindiau, ond hefyd addurno cacennau / uwchgylchu

 

Beth wyt ti’n ei garu am weithio yn Aberystwyth?

Bod mewn lle hamddenol mor hyfryd / y môr

 

Pe bai ti ddim yn dy rôl gyda’r UM... beth fyddet ti’n ei wneud?

Pobydd

 

Pa ran / rhannau o dy swydd wyt ti’n eu mwynhau fwyaf?

Helpu pobl

 

Mae UMAber… yn lle cynnes, croesawgar, yn gartref oddi cartref i ddod iddo

Nid yw UMAber… yn lle ffurfiol, diflas, anghyfeillgar i fod

 

Nid yw'r Haf yn 'amser tawel' i Undebau Myfyrwyr... beth wyt ti’n mynd i fod yn brysur yn gweithio arno dros yr Haf?

Sefydlu’r Tîm Swyddogion newydd, trefnu hyfforddiant i’r Ymddiriedolwyr a helpu gyda pharatoadau ar gyfer yr Wythnos Groeso

Comments

 

Have a good summer 2025

Tue 01 Jul 2025

Join Team Aber

Tue 01 Jul 2025