Mae teulu o staff yr UM yn gweithio y tu ôl i'r llenni i gynorthwyo'r tîm swyddogion, gan sicrhau bod myfyrwyr Aberystwyth yn cael cyfle i garu bywyd myfyrwyr a bod yn barod am unrhyw beth.
Rydym yn falch o gael croesawu tri wyneb newydd i dîm staff UMAber ers dechrau'r flwyddyn academaidd hon.
Fe gawsom gyfle i ofyn rhai cwestiynau i’r tair ohonyn nhw, er mwyn dod i'w hadnabod ychydig yn well...
Mae Cleo yn ymuno â thîm staff Cyfathrebu ac Ymgysylltu’r UM fel cydlynydd Cyfathrebu.
Mae ei rôl yn cynnwys cydlynu portffolio cyfathrebu UMAber: fel cyfryngau cymdeithasol, y wefan a mwy.
Dyweda ychydig wrthym amdanat ti dy hun:
Fe raddiais yn ystod yr haf eleni! Rwyf wrth fy modd yn teithio a gweld lleoedd newydd, coginio a threulio amser gyda ffrindiau a theulu. Dwi hefyd wrth fy modd yn mynd i gerdded!
Ble mae dy gartref?
Y Friog ar hyn o bryd (tua awr o Aber). Ond dwi'n dod o Abertawe yn wreiddiol.
Dyma dy bryd bwyd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen?
Unrhyw fath o fwyd Tsieineaidd, ond rydw i hefyd yn hoff iawn o fwyd Mecsicanaidd (yn enwedig quesadillas).
Dyweda wrthym ffaith ddiddorol amdanat ti dy hun (rhywbeth y bydd pobl yn synnu ei glywed):
Es i ar daith Interrail y llynedd ac fe aethon ni drwy 5 gwlad mewn un diwrnod!!
Cyn gweithio yma, oeddet ti wedi cael llawer o gysylltiad ag undeb y myfyrwyr neu grwpiau myfyrwyr?
Tra roeddwn yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, gweithiais fel Cynorthwyydd Hyrwyddo gyda’r Undeb (a oedd yn ymarfer gwych ar gyfer y rôl hon).
Pe bai ti ddim yn dy rôl gyda’r UM... beth fyddet ti’n ei wneud?
Yn sicr byddwn yn gweithio ym maes Marchnata a Chyfathrebu, gan mai dyma’r hyn wnes i ar gyfer fy ngradd, ac rwyf wrth fy modd!
Beth wyt ti’n ei garu am weithio yn Aberystwyth hyd yma?
Y bobl! Mae pawb mor gyfeillgar a chroesawgar ac mae pob diwrnod yn wahanol.
Pam wnest ti ymuno â'r tîm yma yn UMAber?
Roeddwn i'n edrych am rôl Farchnata yn amgylchedd y Brifysgol a digwyddodd y swydd hon ymddangos (roeddwn i mor hapus ynghylch hynny), roeddwn i hefyd wrth fy modd gweld sut mae’r Undeb yn gallu gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i fywydau myfyrwyr!
Croeso i deulu’r UM, Cleo!