RhME Aberystwyth yn cynnal Llwyfan Cenedlaethol

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

RhME (Rhwydwaith Myfyrwyr Erasmus) yw'r mudiad myfyrwyr mwyaf yn Ewrop sydd â rhwydwaith cysylltiedig mewn dros 30 o wledydd. Roedd hyn yn caniatáu i ni ddod â phobl o Frankfurt, Sweden a Gwlad Belg yr holl ffordd i Aberystwyth am benwythnos yn unig! Mae'r wybodaeth, yr adnoddau a'r profiad a rennir yn caniatáu i ni ddod â llawer mwy o fuddion i'r gymuned ryngwladol a lleol - fe wnaeth Ben Lake ein hatgoffa i wneud hyn yn ein cynhadledd drwy ddweud 'gwnewch y pethau bychain.' Un o'r pethau sydd wedi dod i Aberystwyth yn sgil hyn yw’r cerdyn RhME (ESNcard) sydd wedi golygu miloedd o bunnoedd o ostyngiadau i fyfyrwyr a'r daith lwyddiannus i Gaeredin y semester diwethaf. Mynnwch eich cerdyn RhME yma: https://www.umaber.co.uk/organisation/7357/

Yn ystod ein cynhadledd, etholwyd 5 o'n haelodau i rolau ar y bwrdd cenedlaethol yn RhME y DU, a fydd yn gyfle i ni helpu ein tua 20 adran mewn prifysgolion o Gaeredin i Southampton, yn ogystal â mynychu hyfforddiant a chynadleddau rhyngwladol.

 

Yr aelodau sydd bellach yn y rolau hyn yw:

Bwrdd Cenedlaethol

  • Meg Bennett - Rheolwr Digwyddiadau Cenedlaethol, a fydd yn trefnu teithiau ar gyfer cannoedd o fyfyrwyr!
  • Kelly Gomes - Rheolwr Cyfathrebu, a fydd yn sicrhau bod ein holl gyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu mewnol yn effeithiol.

 

Cymorth i’r Bwrdd Cenedlaethol

  • Stephen Kingdon - Rheolwr Partneriaethau, a fydd yn siarad â busnesau ac asiantaethau recriwtio i gael hyd yn oed mwy o ostyngiadau a chyfleoedd i'n haelodau
  • Gosia Kupiec - Cyflogadwyedd, a fydd yn edrych ar ffyrdd o hyrwyddo buddion symudedd myfyrwyr yn well a gweithio gyda phartneriaid a myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau.
  • Wojciech Salski - Iechyd a Llesiant, a fydd yn gweithio ar nifer o bethau fel chwaraeon, gyda'n Gemau Erasmus Rhyngwladol, gan hyrwyddo llesiant meddyliol a phartïo cyfrifol.

Bydd gennym gryn lawer o waith i'w wneud gan fod RhME yn y DU yn tyfu'n gyflym ac yn weithgar iawn oherwydd y sefyllfa wleidyddiaeth bresennol, sydd ond yn ein gwthio i fod yn fwy ymwybodol.

Mae'r cyfleoedd ehangach o fewn y rhwydwaith wedi ein hysbrydoli ni i gyd, yn ogystal â'r diwylliant hynod gadarnhaol o weithio mewn cymuned mor amrywiol â myfyrwyr rhyngwladol. Mae bod yn rhan o gymuned mor fawr sy'n deall ein gwerthoedd a'n hamcanion yn caniatáu i ni gyflawni pethau anhygoel gyda'n gilydd!

Ein harwyddair yw 'undod mewn amrywioldeb’ - credaf fod hon yn ideoleg werthfawr gan mai deall sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd, er ein bod yn dod o wahanol gefndiroedd, yw’r ffordd orau o wynebu unrhyw her. Dyma syniad rydyn ni i gyd yn falch o’i arddel.

Os yw popeth yn mynd yn iawn, rydym yn bwriadu cynnal taith i Amsterdam ddechrau mis Ebrill a fydd yn gryn lawer o hwyl! Os hoffech chi brofi ychydig o'r hyn rydw i'n siarad amdano, byddai'n wych eich gweld chi yno, felly gwnewch yn siwr eich bod chi'n cael y wybodaeth ddiweddaraf ar Facebook ac Instagram.

Os ydych chi am ganfod mwy am RhME, ewch i:

Comments

 

Have a good summer 2025

Tue 01 Jul 2025

Join Team Aber

Tue 01 Jul 2025

ConGRADulations 2025

Tue 01 Jul 2025