Yn dilyn cyflwyno'r syniad 'Profion HIV' a'i gymeradwyo yn y Senedd yn gynharach eleni, rydym wedi derbyn diweddariad gan Hywel Dda ynghylch diagnosteg a chymorth HIV yn yr ardal leol.
Mae Hywel Dda wedi cadarnhau y gall myfyrwyr gael profion HIV drwy’r gwasanaeth iechyd rhywiol presennol gan Padarn, lle cynigir cwnsela a chymorth llawn.
Mae'r amser mae’n cymryd ar gyfer canlyniadau'r prawf bellach i lawr i 5 diwrnod, a darperir cefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn. Cyflwynir canlyniadau positif gyda chwnsela llawn, a chaiff yr unigolyn ei atgyfeirio i Abertawe sy'n cynnig gofal cysylltiedig â HIV. Yna mae’r rheiny sy’n byw yn ardal Hywel Dda sydd â phrawf positif am HIV yn cael cymorth gan y gwasanaeth Firws a Gludir yn y Gwaed (BBV) yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.
Gall unigolyn ofyn am brawf gan eu meddyg teulu os yw'n well ganddynt, ond mae'r rhan fwyaf o feddygon teulu yn atgyfeirio cleifion i'r gwasanaeth iechyd rhywiol fel y gellir darparu'r cymorth ychwanegol.
Ar gyfer cymorth brys ar ôl dod i gysylltiad, mae mynediad at driniaeth frys (PEP) ar gael naill ai drwy'r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys neu o'r gwasanaeth iechyd rhywiol yn ystod oriau gwaith. Mae PrEP, sy'n bilsen y gellir ei chymryd i amddiffyn unigolion rhag HIV, hefyd ar gael gan y Gwasanaeth Iechyd Rhywiol.
Yn ogystal â derbyn y wybodaeth uchod, mae'r Swyddog Llesiant hefyd yn gweithio ar hyn o bryd ar fuddsoddi mewn pecynnau profion preifat, a allai fod ar gael o Undeb y Myfyrwyr.