PEIDIWCH AG ARWYDDO, MAE GENNYCH CHI AMSER

welsh

Mae digon o dai yma yn Aberystwyth a beth bynnag rydych chi’n edrych amdano, llety preifat neu neuaddau’r Brifysgol, mae digon o amser i chwilio am y cartref perffaith i chi. Yn ol ein harolwg diweddar Caru, Casau, Barnu, mae 27% o fyfyrwyr yn teimlo dan bwysedd i arwyddo ar gyfer ty a 17% gan y darparwyr eu hunain, felly sicrhewch eich bod chi’n gwneud y penderfyniad cywir i chi ac nid i unrhyw un arall.

Mae’n werth gwybod hefyd, er bod 15% o fyfyrwyr yn yr arolwg wedi arwyddo cytundeb ar gyfer eu llety rhwng Hydref a Rhagfyr, arwyddodd 85% o fyfyrwyr rhwng Ionawr a Medi, felly bydd eiddo ar gael o hyd gydol y flwyddyn. Sicrhewch eich bod chi’n treulio amser yn meddwl am yr eiddo rydych chi am ei gael, y cytundeb a’r bobl byddwch chi’n byw gyda nhw.

Cofiwch, os ydych chi yn eich blwyddyn gyntaf (neu hyd yn oed yn eich trydedd flwyddyn, yn olraddedig neu’n chwilio am gydletywyr newydd), dim ond ers 6 mis rydych chi’n adnabod Myfyrwyr eraill, sy’n gallu teimlo fel amser maith, ond mewn gwirionedd cyfnod byr ydyw i wybod yn sicr a ydy’r rheiny rydych chi’n ystyried byw gyda nhw y flwyddyn nesaf yn berffaith. Sicrhewch eich bod chi’n byw gyda myfyrwyr sy’n mynd i gefnogi ei gilydd gydol y flwyddyn a myfyrwyr byddwch chi’n mwynhau byw gyda nhw! Wedi’r cyfan, mae cytundebau’n anodd iawn eu diddymu os byddwch chi i gyd yn cweryla cyn hyd yn oed symud i mewn!

Cofiwch fod arwyddo ar gyfer ty yn ymrwymiad mawr a bod y cytundeb hwnnw’n gyfreithiolrwymol, felly byddwch yn gwbl siwr mai dyma’r ty ar eich cyfer chi. Ond cofiwch fod arwyddo cytundeb ar gyfer llety yn brofiad gwych lle byddwch chi a’ch ffrindiau yn darganfod y lle byddwch chi’n byw ac yn chwerthin gyda’ch gilydd am flwyddyn arall, felly sicrhewch eich bod chi’n ei fwynhau, dychmygwch y lle gyda’ch stwff chi ynddo a dewch o hyd i’r lle perffaith i chi.

Llawer o gariad gan eich Swyddog Llesiant, Lydia :)  xx