Myfyrwyr yn mynychu Gwersyll Arweinwyr y Dyfodol Cyntaf

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Mae rhai wythnosau ers i ni gynnal ein Gwersyll Arweinwyr y Dyfodol cyntaf yng Nghanolfan yr Urdd, Llangrannog. Ymunodd pedwar-ar-bymtheg o fyfyrwyr â ni am benwythnos o adeiladu tîm, hyfforddiant arweinyddiaeth, gweithgareddau grwp, dysgu mwy am yr UM ac wrth gwrs, cwrdd â phobl newydd a chymdeithasu y tu allan i Aberystwyth.

Pan gyrhaeddon ni brynhawn Gwener 15fed Chwefror, cawsom ein croesawu gan staff hyfryd y ganolfan, ac ar ôl i ni gael ychydig o amser i ymgartrefu, dechreuwyd ar ein sesiwn hyfforddi gyntaf; y nod oedd canfod teithiau arweinyddiaeth ac amcanion personol cyfredol pawb. Ond doedd popeth ddim yn cael ei gynnal yn yr ystafell ddosbarth, cafodd y myfyrwyr hefyd gyfle i gymryd rhan mewn gemau adeiladu tîm hwyliog, cyn i ni ddirwyn ein diwrnod cyntaf i ben gyda chwis dan ofal Molly, ein Swyddog Lles!

"Roedd y gemau cymdeithasol yn ystod ac ar ôl hyfforddiant yn wirioneddol wych."

Roedden ni’n ôl yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer yr ail ddiwrnod, ond y tro hwn, roedd y sesiynau'n cael eu rhedeg gan fudiad 'Stand and be counted'. Arwain a chynrychioli eraill oedd themâu'r hyfforddiant, gyda rhan allweddol o'r sesiwn yn canolbwyntio ar sut mae pawb eisoes yn meddu ar y sgiliau i fod yn arweinydd gwych, ac nad yw arweinyddiaeth yn rhywbeth sydd y tu hwnt i gyrraedd! Ar ôl cwblhau sesiynau’r bore, cafodd y myfyrwyr gyfle i roi cynnig ar saethyddiaeth, a oedd yn un o weithgareddau mwyaf poblogaidd y penwythnos.

"Un o'm hoff rannau o'r penwythnos oedd y trafodaethau ar yr hyn mae bod yn arweinydd yn ei olygu. Roedd yr hyfforddiant grwp a'r saethyddiaeth yn seibiant i’w groesawu."

Gyda’r saethyddiaeth drosodd, canolbwyntiodd ein sesiynau prynhawn ar sut y gall myfyrwyr greu newid, yn ogystal â sut y gallant ddefnyddio Undeb y Myfyrwyr i chwarae rôl fwy cyflawn ym mywyd y campws. Ar ôl y sesiynau hyn, roedd nos Sadwrn yn gyfle i gymdeithasu ymhellach a chymryd rhan mewn dirgelwch llofruddiaeth!

Dydd Sul oedd ein diwrnod olaf, a gorffennwyd y penwythnos drwy ddod â phopeth a ddysgwyd at ei gilydd drwy adlewyrchu, gosod targedau a’r gêm adeiladu tîm olaf.

"Roedd y dasg twr pasta a malws melys yn dipyn o hwyl, ac roedd yn ffordd dda o dorri’r iâ da ar ddechrau a diwedd y penwythnos".

Roedd y penwythnos yn brofiad cadarnhaol i bawb a gymerodd ran, ac rydym yn gobeithio nad hwn fydd yr olaf o'n Gwersylloedd Arweinwyr y Dyfodol! Eleni, haelioni Cyn-fyfyrwyr Aberystwyth â’n galluogodd i gynnal y gwersyll hwn, felly hoffem ddiolch yn fawr i GronfaAber am ein helpu i wneud hyn yn bosib!

 

Comments