Helo bawb! Chloe sydd yma, yn ôl eto am flwyddyn arall fel eich Swyddog Materion Academaidd. Penderfynais ail-sefyll ar gyfer y rôl hon oherwydd bod y flwyddyn ddiwethaf yn UMAber wedi bod yn un o rai gorau fy mywyd, ac rwyf wedi dysgu cymaint yn fy rôl nes fy mod i’n awyddus i fynd ati unwaith yn rhagor. Fel myfyriwr, astudiais seicoleg, roeddwn yn rhan o 2 bwyllgor cymdeithas, a gwnes i gryn lawer o wirfoddoli ym Mhrifysgol Aber. Fodd bynnag, rwy'n dal i deimlo fy mod i'n gwybod mwy nawr am faterion myfyrwyr nag y gwnes i erioed o'r blaen. Rydw i mor gyffrous am y flwyddyn sydd o'n blaenau, a gobeithio eich bod chi hefyd! Dwi’n methu aros i'ch gweld chi ym mis Medi!
Dweda ffaith ddiddorol neu 'random' amdanat ti dy hun...
Gan y bydd fy ffrindiau i gyd yn ddig am i mi ddweud wrth BAWB, treuliais gyfran helaeth o fy mhlentyndod yn British Columbia, Canada. Dyma fy ail gartref, ac mae iddo le enfawr yn fy nghalon, oherwydd pwy sydd ddim yn caru mynyddoedd, eirth a chynffonau afanc?!
Dewisa dri gair sy'n dy ddisgrifio orau.
Egnïol, trwsgl a chroch!
Dyma dy bryd bwyd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen?
Unrhyw beth gyda grefi os gwelwch yn dda... byddai ambell bwdin Swydd Efrog yn ei wneud yn well fyth!
Oes gen ti unrhyw hobïau neu ddiddordebau?
Er bod hyn yn gawslyd a generig, mae cerddoriaeth wrth wraidd popeth rydw i'n ei wneud. Dwi wrth fy modd yn canu (ymddiheuriadau i’r rhai sy'n gorfod ei glywed!) a dwi’n gallu chwarae nifer o offerynnau gan gynnwys y trombôn a’r gitâr. Anaml iawn y byddwch chi'n fy nal yn gwneud unrhyw beth lle nad wyf yn symud i rythm fy ngherddoriaeth fy hun!
Pam wnes di sefyll am y rôl hon?
Yr ateb a roddaf i'r rhan fwyaf o bobl i'r cwestiwn hwn yn syml yw fy mod i 100% yn ‘nerd’. Fel myfyriwr roeddwn yn ymwneud â phopeth oedd yn perthyn i faterion academaidd, a sylweddolais yn eithaf cyflym fy mod i’n angerddol dros lais myfyrwyr. Roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau chwarae rôl mewn sicrhau mai myfyrwyr yw'r rhai sy'n llywio eu profiadau eu hunain ym Mhrifysgol Aber, ac roedd bod yn swyddog yn yr UM (yr un ‘nerdy’ yn benodol) yn ymddangos fel y rôl berffaith i mi.
At beth wyt ti’n edrych ymlaen eleni?
Yr un peth rwy'n edrych ymlaen ato fwyaf eleni yw gweld sut mae ein myfyrwyr yn llwyddo i wneud y gorau o sefyllfa wael. Mae'r gymuned sydd gennym yn Aber yn syml yn rhywbeth sydd ddim ar gael yn unrhyw le arall, ac rwy'n wirioneddol falch o'r hyn y llwyddodd ein myfyrwyr i'w gyflawni eleni, er gwaethaf popeth sydd wedi digwydd. Rwy'n wirioneddol gyffrous i gael gweld y pethau anhygoel y mae ein myfyrwyr yn llwyddo i'w cyflawni trwy ddod at ei gilydd yn ystod yr hyn a fydd yn debygol o fod yn gyfnod gwahanol iawn.
Wyt ti’n gallu enwi rhai o’r achosion sy'n bwysig i ti?
Rwy'n wirioneddol angerddol am ailwampio ein polisi amgylchiadau arbennig ac estyniadau yn y Brifysgol; mae gwir angen gwneud hyn. Ni ddylai fod yn ofynnol i fyfyrwyr gyflwyno llwyth o waith papur a thystiolaeth ansensitif wrth wynebu caledi, felly rwy'n awyddus iawn i ddod o hyd i ffordd wahanol o fynd ati.
Rwyf hefyd am wella'r ddarpariaeth ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Hoffwn wneud y broses o ddynodi'r anghenion hyn yn haws i fyfyrwyr, yn ogystal â sicrhau bod adrannau’n gallu darparu’r dewisiadau amgen priodol i fyfyrwyr lle bo angen.
Beth yw dy hoff le yn Aberystwyth?
Heb amheuaeth, y pier. Yn llythrennol, mae ganddyn nhw bopeth! Noson dêt? Arcêd. Noson hamddenol gyda'ch ffrindiau? Cwis tafarn. Noson ddim mor hamddenol gyda'ch ffrindiau? Clwb nos. Codi cywilydd arnoch hun yn gyhoeddus? Karaoke Beth mwy gallech chi fod ei eisiau?
Pe bai ti'n uwch-arwr, pa bwerau fyddai gen ti?
Pe bawn i'n arch-arwr yr unig bwer y byddwn i eisiau fyddai psychokinesis. Ers darganfod fy mod i'n gallu troi fy nheledu ymlaen gydag Alexa yn lle estyn am y teclyn, dwi eisiau mwy o hyn. Hefyd, gallwn argyhoeddi pobl eu bod yn cael eu poeni gan ysbrydion, ac mae hynny'n eithaf doniol i mi.
Wyt ti’n gallu enwi hoff le rwyt ti wedi ymweld ag e, a dweud pam?
Rhaid imi ddweud mai fy hoff le yn y byd yw Whistler BC Fel plentyn byddwn yn ymweld â’r lle o leiaf unwaith y flwyddyn, a byddwn yn rhoi unrhyw beth i allu mynd yn ôl fel oedolyn nawr. Un o fy atgofion melysaf yw teithio i lawr lifft sgïo gyda fy nhad pan basiodd arthes a dwy arth fach oddi tanom; roedd yn brofiad mor anhygoel, ond heb fod yn frawychus